Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn helpu i ddatblygu canllawiau arloesol ar awyr dywyll

Posted On : 06/03/2025

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu canllawiau newydd gyda Llywodraeth Cymru i warchod awyr dywyll Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Cafodd y Canllawiau Arfer Da: Cynllunio ar gyfer Cadwraeth a Gwella Awyr Dywyll yng Nghymru ei lansio yn swyddogol mewn digwyddiad yng Nghaerdydd ddydd iau, 20 Chwefror, cyn yr Wythnos Awyr Dywyll.  Mae’r canllawiau yn darparu fframwaith cenedlaethol i sicrhau bod goleuadau’n cael eu defnyddio yn gyfrifol er mwyn lleihau llygredd golau, a gwella llesiant, bioamrywiaeth, ac awyr dywyll enwog Cymru.

Dywedodd Gayle Lister, Prif Swyddog Cynllunio o Awdurdod y Parc Cenedlaethol a fu’n rhan o’r broses gydweithredol o lunio’r canllawiau cenedlaethol:

“Hyrwyddo ac annog goleuadau awyr dywyll a lleihau llygredd golau yw’r ffordd symlaf, gyflymaf a mwyaf cost-effeithiol o wneud newid gweladwy, cadarnhaol i gymunedau lleol.”

Mae safleoedd awyr dywyll Cymru ymysg y rhai tywyllaf yn y byd, ac mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn rhoi cyfleoedd anhygoel i bobl syllu ar y sêr. Serch hyn, mae’r cynnydd yn lefelau llygredd golau yn bygwth y rhyfeddodau naturiol hyn, ac yn cael effaith ar fywyd gwyllt nosol, ar iechyd pobl, ac ar astro-dwristiaeth, sector sy’n tyfu yma yng Nghymru.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn hyrwyddo cadwraeth awyr dywyll ers amser maith, a bydd y canllawiau hyn yn cryfhau ei allu i annog defnydd cyfrifol o olau mewn ceisiadau cynllunio, datblygiadau, a chymunedau lleol.

Bydd yr Awdurdod yn dal ati i rannu’r awgrymiadau sydd yn y canllawiau ar eu sianeli cyfathrebu, er mwyn cynorthwyo cymunedau, busnesau, a datblygwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am oleuadau. Drwy leihau llygredd golau, gallwn ni warchod bywyd gwyllt, gwella llesiant, a sicrhau bod Sir Benfro yn parhau i fod yn un o’r llefydd gorau i brofi awyr dywyll.

I ganfod ble gallwch chi fwynhau golygfeydd trawiadol o’r awyr dywyll yn y Parc Cenedlaethol, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/pethau-iw-gwneud/gweithgareddau-awyr-agored/awyr-dywyll.

A silhouette of a person beaming a flashlight towards a starry night sky