Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cyhoeddi eglurhad ar Gyfarwyddyd Erthygl 4 (1) ar gyfer safleoedd gwersylla a charafanau 28 diwrnod
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cyhoeddi datganiad eglurhad sy’n amlinellu manylion allweddol am y Cyfarwyddyd Erthygl 4(1) arfaethedig, sy’n ceisio rheoli effaith safleoedd gwersylla, carafannau a chartrefi symudol 28 diwrnod nad ydynt yn cael eu rheoleiddio yn y Parc Cenedlaethol.
Bydd Cyfarwyddyd Erthygl 4 (1), a gymeradwywyd ym mis Rhagfyr 2024, yn gofyn am ganiatâd cynllunio ar gyfer safleoedd gwersylla, carafannau a chartrefi symudol dros dro 28 diwrnod o 1 Ionawr 2026 ymlaen. Mae’r mesur hwn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, a oedd yn dangos cefnogaeth gref i fwy o reolaethau i warchod tirweddau, bioamrywiaeth a chymunedau lleol y Parc Cenedlaethol.
Mae’r datganiad eglurhad sydd newydd ei ryddhau, sydd bellach ar gael ar wefan yr Awdurdod, yn cadarnhau mai dim ond i safleoedd gwersylla, carafannau a chartrefi symudol 28 diwrnod y bydd y cyfyngiadau arfaethedig yn berthnasol. Ni fydd hyn yn effeithio ar ddefnydd 28 diwrnod dros dro arall – gan gynnwys ffilmio, meysydd parcio dros dro, a sawnau symudol. Ar ben hynny, bydd safleoedd a chyrff tystysgrifau eithriedig sy’n gweithredu dan dystysgrifau eithrio yn parhau i weithredu yn ôl yr arfer.
Mae’r datganiad hefyd yn egluro na fydd angen caniatâd cynllunio ychwanegol i wersylla a gosod carafanau sy’n gysylltiedig â digwyddiadau dros dro eraill a ganiateir, fel priodasau, gwyliau, ffilmio neu sioeau amaethyddol. Wrth asesu a yw gwersylla’n ategol i ddigwyddiad, bydd yr Awdurdod yn ystyried ffactorau fel trwyddedu, hysbysebu, cyfran y bobl sy’n defnyddio’r safle, a hyd y digwyddiad.
Er mwyn helpu tirfeddianwyr a gweithredwyr safleoedd, bydd yr Awdurdod yn cynnig gwasanaeth cyn ymgeisio am ddim i’r rhai sy’n bwriadu cyflwyno ceisiadau cynllunio dan Gyfarwyddyd Erthygl 4 (1). Mae’r nodyn eglurhad hefyd yn rhoi arweiniad ar yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer ceisiadau cynllunio.
Bydd aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn penderfynu’n ffurfiol a ddylid cadarnhau Cyfarwyddyd Erthygl 4 (1) yn eu cyfarfod ar 7 Mai 2025, ochr yn ochr ag adroddiad llawn ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad.
Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys y datganiad eglurhad a gyhoeddwyd, ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/tudalen-ymgynghori-cyfarwyddyd-erthygl-41.
