Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gwahodd adborth ar ddogfennau ymgynghori allweddol

Posted On : 27/08/2024

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gofyn i’r gymuned gymryd rhan mewn dau ymgynghoriad pwysig a fydd yn siapio dyfodol yr ardal.

Mae’r ymgynghoriad cyntaf yn gofyn am fewnbwn y cyhoedd ar Gynllun Partneriaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gyfer 2025-2029, dogfen strategol a fydd yn arwain y gwaith o reoli a gwarchod y dirwedd arbennig hon.

Mae Cynllun Partneriaeth y Parc Cenedlaethol (a oedd yn arfer cael ei alw yn Gynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol) yn ffordd o gydlynu ymdrechion yr holl sefydliadau ac unigolion sy’n cyfrannu at ddibenion y Parc Cenedlaethol sef cadwraeth, mwynhad a dealltwriaeth.

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Yn gynharach eleni, fe wnaethon ni ofyn i bobl roi eu barn am beth sy’n gwneud y Parc Cenedlaethol yn arbennig, yn ogystal â’r heriau sy’n ei wynebu ac atebion posibl. Rydyn ni wedi defnyddio’r adborth hwn i greu Cynllun Partneriaeth drafft.

“Rydyn ni’n annog pawb sy’n byw ar hyd Arfordir Penfro neu sy’n ymweld â’r ardal i roi eu barn ar y ddogfen bwysig hon cyn y dyddiad cau. Ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben, bydd adroddiad yn cael ei baratoi a fydd yn dangos sut rydyn ni wedi mynd i’r afael â’r adborth a bydd Cynllun Partneriaeth diwygiedig yn cael ei gyflwyno i Awdurdod y Parc ei gymeradwyo.”

Mae’r ail ymgynghoriad sydd ar agor ar hyn o bryd ac yn gofyn am sylwadau’r cyhoedd yn ymwneud â ffin Ardal Gadwraeth arfaethedig yng Nghei Cresswell.

Yn ystod cyfarfod Awdurdod yr Parc Cenedlaethol ar 24 Gorffennaf 2024, cynigwyd y dylid dynodi Cei Cresswell a’r ardaloedd cyfagos yn Ardal Gadwraeth, gan ymuno ag un deg pedwar arall sydd eisoes wedi cael eu sefydlu yn y Parc Cenedlaethol. Mae’r dynodiad hwn yn cydnabod rhinweddau pensaernïol a hanesyddol unigryw Cei Cresswell a’i gyd-destun gweledol a’r angen i’w diogelu a’u rheoli’n ofalus.

Mae’r ymgynghoriad yn ceisio canfod ffin ar gyfer yr Ardal Gadwraeth arfaethedig.

Ar gyfer Cei Cresswell, byddai’r dynodiad hwn yn dod â diogelwch ychwanegol y tu hwnt i’r rheolau sydd eisoes yn bodoli yn y Parc Cenedlaethol. Yn benodol, byddai’n rhaid cael caniatâd i ddymchwel adeiladau neu nodweddion ffin penodol a byddai’n golygu hefyd bod yn rhaid rhoi gwybod i’r Awdurdod am unrhyw waith i goed.

Y dyddiad olaf i gyflwyno sylwadau ar Gynllun Partneriaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw 5pm ddydd Llun 30 Medi 2024.

Dylid cyflwyno sylwadau am ffin arfaethedig yr Ardal Gadwraeth yng Nghei Cresswell erbyn 5pm ddydd Llun 23 Medi 2024.

Mae’r ddwy ddogfen ymgynghori a’r holl ddogfennau ategol ar gael yn https://www.arfordirpenfro.cymru/cymryd-rhan/ymgynghoriadau-cyhoeddus/

An image of Cresswell Quay on a fine summer's day.