Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithredu er mwyn gwarchod tirwedd Sir Benfro rhag gwersylla anrheoledig
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cymeradwyo cynlluniau i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 (1) er mwyn dileu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer safleoedd gwersylla, carafanio, a chartrefi symudol 28-diwrnod yn y Parc Cenedlaethol.
Gwnaethpwyd y penderfyniad yng nghyfarfod yr Awdurdod ar ddydd Mercher 11 Rhagfyr, ac mae’n dynodi cam arwyddocaol ymlaen wrth fynd i’r afael ag effeithiau gwersylla dros dro anrheoledig ar dirweddau ac ecosystemau gwarchodedig y Parc Cenedlaethol.
Daw’r mesurau wedi i ymgynghoriad cyhoeddus eang ddatgelu bod cefnogaeth gref i’r rheolau ychwanegol. Mae’r ymgynghoriad yn tynnu sylw at bryderon oedd yn ymwneud ag effeithiau gweledol ar dirwedd, perygl i fioamrywiaeth, a phwysau ar seilwaith lleol. Soniodd nifer o ymatebwyr, preswylwyr lleol yn bennaf, am faterion oedd yn ymwneud â sŵn, tagfeydd traffig, a’r helyntion eraill sy’n wynebu’r bobl sy’n byw ger y safleoedd gwersylla a charafanio dros dro.
Bydd cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn rhoi’r pwerau i’r Awdurdod allu ei gwneud hi’n ofynnol i safleoedd gwersylla carafanio, a chartrefi symudol 28 diwrnod gael caniatâd cynllunio. Bydd hyn yn sicrhau bod eu lleoliad a’u gweithrediad dyddiol yn cael ei reoli mewn ffordd sy’n gwarchod amgylchedd unigryw’r Parc Cenedlaethol.
Bydd cyfarwyddyd Erthygl 4 yn dod i rym dydd Mercher, 1 Ionawr 2026, a bydd cyfnod pontio ar gyfer tirfeddianwyr a rheolwyr safleoedd er mwyn sicrhau bod ganddynt ddigon o amser i ddod i ddeall y gofynion newydd ac i gyflwyno ceisiadau cynllunio. Ni fydd y ceisiadau hyn yn golygu talu unrhyw ffioedd, a bydd yr Awdurdod yn rhoi blaenoriaeth i geisiadau er mwyn ceisio osgoi oedi. Ni fydd Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn effeithio ar safleoedd presennol sydd yn barod â chaniatâd cynllunio, na safleoedd sy’n cael eu rheoli gan sefydliad sydd wedi eu heithrio.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar Gyfarwyddyd Erthygl 4 yn cael ei gynnal rhwng dydd Gwener 10 Ionawr a dydd Gwener 21 Chwefror 2025. Bydd yr ymgynghoriad yn para 6 wythnos ac yn rhoi cyfle i unigolion a sefydliadau ddweud eu dweud am y mesurau arfaethedig.
Yn ychwanegol at Gyfarwyddyd Erthygl 4, bydd yr awdurdod yn ymgysylltu â sefydliadau sydd wedi eu heithrio er mwyn datblygu Cod Ymddygiad gwirfoddol. Bydd hyn yn sicrhau bod y safleoedd sydd wedi eu heithrio yn dal ati i weithredu mewn ffordd gyfrifol yn unol â pholisïau lleol a chenedlaethol, ac yn cydweithio i warchod y Parc Cenedlaethol.
Am ragor o fanylion am yr ymgynghoriad ewch i www.arfordirpenfro.cymru/ymgynghoriadau-cyhoeddus