Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn sicrhau cyllid ar gyfer prosiect Cysylltu Natur 25×25

Posted On : 29/07/2024

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi sicrhau cyllid gan y rhaglen Rhwydweithiau Natur ar gyfer ei brosiect Cysylltu Natur 25x25.

Nod y fenter uchelgeisiol hon yw hybu adferiad natur ar draws 25% o ardal ogleddol y Parc Cenedlaethol erbyn 2025. Diolch i grant hael o £244,450 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, wedi’i ategu gan £5,000 ychwanegol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, bydd y prosiect yn helpu i gysylltu cynefinoedd sy’n gyforiog o rywogaethau â safleoedd a warchodir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan feithrin amgylchedd mwy cadarn lle gall bywyd gwyllt ffynnu.

Mae rhan o brosiect Cysylltu Natur 25×25 yn cynnwys adeiladu ar waith presennol Awdurdod y Parc o gefnogi ffermwyr a thyddynwyr sy’n defnyddio technegau ffermio traddodiadol i warchod natur ar eu tir eu hunain ac ar dir comin.

Drwy ddefnyddio technoleg ffensio rhithwir arloesol ochr yn ochr â gwella seilwaith, y gobaith yw y bydd ffermwyr yn gallu gwneud defnydd llawn o’u tir, gan ddefnyddio arferion sy’n ystyriol o natur.

Agwedd bwysig arall ar y prosiect fydd rheoli rhywogaethau estron goresgynnol sy’n bygwth Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a dyfrffyrdd ar hyd a lled yr ardal.

Mae’r rhywogaethau y disgwylir iddynt elwa o’r prosiect Cysylltu Natur 25×25 yn cynnwys ystlumod trwyn pedol ac ystlumod du, pathewod, llygod medi, brain coesgoch, titw’r helyg, brith y gors a gloÿnnod brith perlog bach, mursennod y de, gwiberod a chennau.

Yn ogystal â’r manteision ecolegol, mae’r prosiect hefyd yn ceisio creu cyfleoedd i bobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli a chymunedau difreintiedig gymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau cadwraeth natur. Drwy fentrau fel y prosiect Llwybrau, mae unigolion yn datblygu sgiliau ac yn cael profiadau gwerthfawr, gan feithrin cysylltiad dyfnach rhwng cymunedau a’u hamgylchedd naturiol.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi sicrhau cyllid ar gyfer Cysylltu Natur 25×25. Mae’r prosiect hwn yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymdrechion parhaus i ddiogelu ac adfer amgylchedd naturiol y Parc Cenedlaethol.

“Drwy weithio ar y cyd â ffermwyr, cymunedau a sefydliadau partner, gallwn sicrhau dyfodol ffyniannus i bobl a byd natur.”

Ariennir y prosiect hwn gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Caiff ei ddarparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am gyfleoedd cadwraeth ymarferol yn y Parc Cenedlaethol ar gael yn https://www.arfordirpenfro.cymru/cymryd-rhan/gwirfoddoli/gwirfoddoli-ymarferol-cadwraethol/.

A close-up image of a marsh fritillary butterfly against a green background.