Awdurdod y Parc yn annog pobl i fod yn eithriadol o ofalus yn dilyn y tanau gwyllt ar y Preseli
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn annog tirfeddianwyr, porwyr ac aelodau o’r cyhoedd i beidio â llosgi yn dilyn nifer o danau mawr ar Fryniau Preseli dros y diwrnodau diwethaf.
Nid yw Awdurdod y Parc wedi bod yn ymwneud ag unrhyw un o’r tanau sydd wedi ymledu allan o reolaeth dros y dyddiau diwethaf, nac wedi cael gwybod amdanynt, ond mae staff wedi bod yn helpu Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i fynd drwy’r ardaloedd y mae’r tanau wedi effeithio arnynt.
Mae’r Awdurdod hefyd yn rhan o Grŵp Tanau Gwyllt Sir Benfro, sy’n gweithio gyda thirfeddianwyr a chymunedau i gymryd camau ymarferol cadarnhaol i leihau effaith tanau ar y Parc a’i economi, ei ecoleg, ei amgylchedd, ei dreftadaeth a’i gymunedau gwledig.
Dywedodd Arwel Evans, Swyddog Gwarchodaeth Fferm Awdurdod y Parc:
“Rydyn ni’n annog pawb i beidio â llosgi oherwydd maint a lledaeniad y tanau rydyn ni wedi’u gweld yn ddiweddar, yn dilyn cyfnod estynedig o dywydd sych iawn.
“Dylai unrhyw un sy’n dymuno cynnal gwaith llosgi dan reolaeth yn yr ardal hon fod yn ymwybodol o ganllawiau perthnasol Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys y cynllun llosgi y cytunwyd arno ar gyfer Ardal Cadwraeth Arbennig Bryniau Preseli a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Carningli.
“Nid oes angen i dirfeddianwyr na phorwyr gael caniatâd Awdurdod y Parc i gynnal gwaith llosgi dan reolaeth, ond rydym yn eu hannog i gysylltu â ni ymlaen llaw er mwyn i ni allu eu cynghori a’u rhoi mewn cysylltiad â’r grwpiau a’r sefydliadau perthnasol y mae arnynt angen caniatâd ganddynt, fel Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Mae’n hanfodol hefyd bod Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael gwybod ymlaen llaw ar 01268 909404.”
Yn ogystal â chysylltu â thirfeddianwyr a phorwyr lleol i’w hannog i beidio â thanio unrhyw dân, mae staff yr Awdurdod hefyd wedi gosod arwyddion ar y tir mynediad agored ar Fryniau Preseli i atgoffa aelodau’r cyhoedd na ddylid cynnau barbeciw oherwydd y risg uchel o dân.
I gael rhagor o wybodaeth am Grŵp Tanau Gwyllt Sir Benfro, ewch i dudalen Grŵp Tanau Gwyllt Sir Benfro.