Awdurdod y Parc yn annog ymwelwyr i gynllunio ymlaen llaw a throedio’n ysgafn y penwythnos hwn
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn annog ymwelwyr i gynllunio ymlaen llaw a pheidio â gadael olion dros benwythnos gŵyl y banc.
Wrth i’r cyfyngiadau symud lacio ymhellach, mae’r Awdurdod yn rhagweld mai dyma fydd Gŵyl Fai brysuraf ar gofnod ac mae’n gweithio gyda phartneriaid i wneud yn siŵr bod ymwelwyr yn gallu mwynhau eu gwyliau yn ddiogel a bod cymunedau lleol yn cael cymorth i ddelio â niferoedd uwch o ymwelwyr.
Mae’n rhaid archebu llawer o atyniadau ymlaen llaw, a gan fod llefydd parcio o amgylch yr arfordir yn brin, cynghorir ymwelwyr i wneud eu hymchwil cyn dechrau a chael cynllun wrth gefn os yw’r safleoedd yn brysur.
Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pobl wedi bod angen mynediad at fyd natur yn fwy nag erioed o’r blaen ac mae Arfordir Penfro yn parhau i fod yn gyrchfan eithriadol o boblogaidd.
“Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio bod y Parc yn dirwedd warchodedig, ac oherwydd hyn, rydyn ni’n gofyn i’r rheini fydd yn ymweld â’r parc y penwythnos hwn droedio’n ysgafn a pheidio â gadael olion. Ni allwn ddiogelu’r dirwedd drawiadol hon a’i bywyd gwyllt ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol oni bai fod pawb yn chwarae eu rhan.”
Mae mwy o weithio mewn partneriaeth wedi arwain at fwy o gyfleoedd i reoli llawer o’r heriau y gwnaethom eu hwynebu yn ystod yr haf diwethaf, gan gynnwys sbwriel sy’n cael ei adael mewn mannau prydferth, pobl yn parcio’n flêr ac yn atal mynediad i gerbydau brys a llif o wersylla gwyllt heb ei awdurdodi.
Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio’r fersiwn digidol o Coast to Coast, sef papur newydd ymwelwyr Awdurdod y Parc, er mwyn eu helpu i gynllunio ymlaen llaw a throedio’n ysgafn yn ystod eu hymweliad.
Ewch i dudalen Coast to Coast i ddarllen rhifyn eleni ar-lein neu i lawrlwytho’r ap.