Awdurdod y Parc yn apelio i forloi gael llonydd yn ystod y tymor geni
Mae pobl yn cael eu hannog i beidio â tharfu ar forloi a’u morloi bach, wrth iddynt barhau i ymddangos ar draethau ac mewn cildraethau ar hyd Arfordir Penfro.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi derbyn adroddiadau am bobl yn mynd yn rhy agos at forloi ar adeg pan fyddant yn arbennig o agored i niwed.
Dywedodd Libby Taylor, Rheolwr Gwasanaethau Parcmyn Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
“Mae’r morloi yn cael eu gwarchod gan y gyfraith, ond eleni’n unig, rydyn ni wedi clywed am geufadwyr yn mynd i gildraethau lle’r oedd morloi bach yn bresennol ac un digwyddiad lle’r oedd rhywun yn ceisio rhoi morloi bychan newydd gael ei eni yn y môr.
“Os yw morloi ar ei ben ei hun ar draeth, mae fel arfer yn golygu bod ei fam gerllaw yn y dŵr. Weithiau, gall aros i ffwrdd am gyfnodau hir, felly cadwch ddigon pell i ffwrdd er mwyn iddi allu dychwelyd pan fydd angen.
“Un o’r ffyrdd gorau o weld morloi a’u morloi bach o bellter diogel yw ar Lwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro, sy’n mynd ar hyd clogwyni uwchben nifer o gildraethau a chilfachau anghysbell nad oes modd eu cyrraedd ar droed. Bydd sbienddrych yn ddefnyddiol ar gyfer edrych yn agosach.
“Os gwelwch unrhyw forloi, y peth gorau i’w wneud yw sicrhau bod cyn lleied â phosibl o sŵn, sicrhau bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn ac i ddod o hyd i leoliad arall ar gyfer eich taith gerdded neu antur.”
Mae Awdurdod y Parc wedi rhoi arwyddion dros dro ar waith mewn rhai lleoliadau prysur hysbys i godi ymwybyddiaeth o’r mater gyda phobl nad ydynt efallai’n ymwybodol bod y lleoliad o’u dewis yn boblogaidd gyda morloi.
Os ydych chi’n credu bod y morloi mewn trallod, ffoniwch Welsh Marine Life Rescue ar 07970 285086 neu’r RSPCA ar 0300 1234 999.
Mae codau ymddygiad i bobl eu dilyn wrth archwilio Arfordir Penfro ar gael drwy fynd i wefan Cod Morol Penfro.
I gael rhagor o wybodaeth am forloi a rhai o’r rhywogaethau anhygoel eraill y gallwch eu gweld ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i’n tudalen Bywyd Gwyllt.