Awdurdod y Parc yn cael ei gydnabod am gynorthwyo a datblygu ei Aelodau
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi canmol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro am fynd “y filltir ychwanegol” i gynorthwyo a datblygu ei Aelodau.
Dyfarnwyd y Freinlen Lefel Uwch i’r Awdurdod am Gynorthwyo a Datblygu Aelodau, ar ôl iddo lwyddo i ddangos “gwaith effeithiol a pharhaus gan y swyddogion a’r Aelodau”.
Bwriad y Freinlen yw sicrhau bod ystod hanfodol o drefniadau cymorth a datblygu ar gael i gynghorwyr, ac mae’r Freinlen Uwch yn brawf pellach bod y trefniadau sy’n ofynnol ar gyfer y Siarter yn gweithio’n effeithiol.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn un o ddim ond tri awdurdod yng Nghymru i ennill y Freinlen Lefel Uwch, ar ôl cael ein cydnabod gan CLlLC am waith caled staff ac Aelodau, yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau anodd a ddaeth yn sgil y pandemig byd-eang.
“Roedd yr enghreifftiau a amlygwyd gan CLlLC yn cynnwys y cymorth a roddwyd i Aelodau gael mynediad at y platfform cyfarfodydd ar-lein a’i ddefnyddio. Roedd hyn wedi galluogi’r Awdurdod i barhau i weithredu wrth i gyfyngiadau Covid-19 ei gwneud yn amhosibl cynnal cyfarfodydd pwyllgor wyneb yn wyneb.”
Er mwyn ennill y dyfarniad, roedd rhaid darparu tystiolaeth o’r cyfleusterau ar gyfer cefnogi a datblygu a’r gwasanaethau cymorth a ddarparwyd i Aelodau. Cafodd y gwaith hwn ei adolygu gan Banel o swyddogion CLlLC a swyddogion awdurdodau lleol ac yna mewn cyfres o gyfweliadau gyda’r Aelodau a’r swyddogion.
Mewn llythyr yn llongyfarch yr Awdurdod, dywedodd Panel Adolygu CLlLC:
“Mae’r wybodaeth a’r dystiolaeth a ddarparwyd yn dangos yn glir bod yr holl feini prawf angenrheidiol wedi cael eu bodloni.
“Mae’r aelodau’n elwa o’r arferion gwell a gyflwynwyd ac yn gallu arddangos yr arferion da hyn drwy raglen gynhwysfawr ac effeithiol o gynorthwyo a datblygu. Mae hyn yn galluogi’r Awdurdod i roi trefniadau llywodraethu corfforaethol effeithiol ar waith.”
I gael rhagor o wybodaeth ac i weld rhestr o’r awdurdodau lleol sydd wedi derbyn y freinlen a’r freinlen lefel uwch, ewch i wefan CLlLC.