Awdurdod y Parc yn cefnogi rheoliadau diwygiedig y Llywodraeth
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn cefnogi rheoliadau diwygiedig Llywodraeth Cymru sy'n atal teithiau nad ydynt yn hanfodol mewn ymgais i atal Coronavirus rhag lledaenu.
Mae’r newid mewn canllawiau, sy’n atal pobl rhag teithio y tu allan i’w hardal leol ar deithiau nad yw’n hanfodol, yn rhoi mwy o eglurder i bobl sy’n ceisio ymweld â chyrchfannau gwledig fel Sir Benfro.
Mae’r sir wedi profi mewnlifiad o ymwelwyr dros yr wythnosau diwethaf, gan roi pwysau ychwanegol ar ddarparu gwasanaethau lleol.
Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Rydym yn croesawu’r canllawiau diwygiedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw sy’n darparu mwy o ddiogelwch i gymunedau gwledig ac yn ei dro yn amddiffyn y GIG ac a fydd yn helpu i achub bywydau.
“Fel sir rydym yn dibynnu ar ein heconomi ymwelwyr, gan groesawu dros bedair miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, ond yn ystod yr amseroedd digynsail hyn rydym yn dweud wrth bobl am aros gartref i aros yn ddiogel ac ymweld yn nes ymlaen.
“Mae ofnau cynyddol wedi bod yn lleol, wrth inni agosáu at benwythnos Gŵyl y Banc, y bydd Sir Benfro unwaith eto’n wynebu pwysau cynyddol wrth i bobl anwybyddu cyngor y Llywodraeth ac anelu am yr arfordir.
“Fel Awdurdod byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu dros yr wythnosau nesaf i ddarparu mynediad rhithwir i’r Parc Cenedlaethol trwy ein gwefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol, podlediadau a fideo i ganiatáu i bobl gysylltu â natur a phrofi ein Parc Cenedlaethol ar-lein. Ewch i www.arfordirpenfro.cymru neu ein tudalennau Facebook a Twitter i gael mwy o wybodaeth. ”
Mae’r rhan fwyaf o Lwybr Arfordir Sir Benfro a phob un o atyniadau blaenllaw Sir Benfro, gan gynnwys safleoedd ymwelwyr yr Awdurdod, Castell Caeriw, Castell Henllys ac Oriel y Parc, yn parhau ar gau mewn ymateb i gyngor y Llywodraeth.