Blas yr hydref yn nigwyddiadau gwasgu afalau Castell Caeriw
Bydd digwyddiadau gwasgu afalau poblogaidd Castell Caeriw yn dychwelyd dros yr wythnosau nesaf, gan roi cyfle i aelodau’r cyhoedd droi unrhyw afalau sydd ganddyn nhw dros ben yn sudd blasus.
Bydd y digwyddiadau gwasgu afalau yn cael eu cynnal yn yr atyniad sy’n cael ei redeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddydd Sadwrn 23 Medi a dydd Sadwrn 7 Hydref rhwng 10am a 2pm.
Ar y naill ddyddiad a’r llall, bydd y Parcmon Chris Taylor ar dir y Castell hardd gyda gwasg afalau, yn barod i helpu ymwelwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu cynhaeaf afalau.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr yng Nghastell Caeriw:
“Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fydd afalau ar eu gorau, ond mae gan nifer o bobl ormod ohonyn nhw. Mae ein digwyddiadau gwasgu afalau yn ateb perffaith i hyn ac yn ddigwyddiad hwyliog i bob oed.”
“Oni bai eich bod yn bwriadu crwydro’r Castell, sydd bob amser yn werth ymweld ag ef, does dim ffi mynediad. Yr unig ofyniad i’r rheini sy’n dod draw yw eu bod yn dod ag afalau a rhywbeth i ddal eu sudd gyda nhw, a’u bod yn barod i roi cynnig arni.”
Mae rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau ar draws y Parc Cenedlaethol dros yr hydref hwn ar gael ar ein tudalen digwyddiadau.