Bws mini trydan newydd yn dod ag anturiaethau hygyrch i Arfordir Penfro
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cymryd cam sylweddol tuag at wella hygyrchedd a chynaliadwyedd drwy gyflwyno bws mini trydan newydd, a ariannwyd gan bartneriaeth Ailwefru mewn Natur BMW UK gyda Pharciau Cenedlaethol y DU, yn ogystal â chyfraniad oddi wrth y Weinyddiaeth Amddiffyn, drwy Gronfa Stiwardiaeth Cadwraeth y Sefydliad Seilwaith Amddiffyn.
Drwy ddisodli hen fws mini diesel, mae’r bws trydan newydd yn hyrwyddo teithio mwy cynaliadwy, yn lleihau allyriadau a llygredd sŵn. Bydd hefyd yn gwella mynediad at y Parc i ganiatáu i fwy o bobl, gan gynnwys y rhai â chyfyngiadau symudedd, gymryd rhan mewn gweithgareddau fel prosiectau gwirfoddoli â chymorth a theithiau tywys natur.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Natur a Thwristiaeth, James Parkin:
“Cafodd y bws mini ei ddadorchuddio yn ystod trip arbennig gyda gwirfoddolwyr i Faes Tanio Castellmartin, tirwedd unigryw a dramatig sy’n gartref i fywyd gwyllt prin a hanes milwrol diddorol. Mae tywyswyr gwirfoddol profiadol Awdurdod y Parc yn arwain teithiau tywys i’r cyhoedd ar droed ac ar fws mini ar draws yr ardal gyfyngedig hon gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn ystod y gwanwyn a’r haf.
“Mae teithiau tywys Maes Tanio Castellmartin wedi tyfu mewn poblogrwydd, gyda dros 1,250 o bobl yn cymryd rhan yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf. Mae nifer o ymwelwyr wedi mynegi awydd i aelodau o’r teulu neu ffrindiau sydd â heriau symudedd, i ymuno â nhw, a bydd y bws mini newydd hwn yn helpu i groesawu ystod ehangach o ymwelwyr, gan roi’r cyfle iddyn nhw brofi harddwch y Parc Cenedlaethol.”
Yn ei drydedd flwyddyn, mae’r bartneriaeth Ailwefru mewn Natur rhwng BMW UK a’r Parciau Cenedlaethol wedi gweld 81 o fannau gwefru newydd ar gyfer cerbydau trydan yn cael eu gosod ar draws Parciau Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd, y Peak District, Dyffrynnoedd Swydd Efrog, Gweunydd Gogledd Efrog, Dartmoor a Bannau Brycheiniog dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda mwy i ddod nes ymlaen eleni. Mae gan bob Parc hefyd ei brosiect adfer natur ac effaith gymunedol ei hun a ariennir drwy’r bartneriaeth, sy’n cynnwys y bws mini trydan newydd. Bydd y bartneriaeth yn fuddsoddiad gwerth £1 miliwn mewn prosiectau natur a chymunedol, yn ogystal â rhoi pob un o 15 Parc Cenedlaethol y DU ar y map cerbydau trydan, gan osod mannau gwefru newydd ar bob safle.
Dywedodd Emily Barrow, Rheolwr Cyfathrebu Brand BMW UK:
“Yn BMW, rydyn ni wedi ymrwymo i ysgogi newid positif drwy symudedd mwy cynaliadwy a stiwardiaeth amgylcheddol. Mae cyflwyno’r bws mini newydd hwn ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn enghraifft berffaith o sut mae ein partneriaeth Ailwefru mewn Natur yn cael effaith go iawn, gan wella hygyrchedd tra’n lleihau allyriadau carbon. Rydyn ni’n falch o gefnogi mentrau sy’n helpu mwy o bobl i brofi harddwch Parciau Cenedlaethol y DU mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’n gweledigaeth am ddyfodol mwy cynaliadwy.”
Ychwanegodd James Nevitt, Uwch Gynghorydd Mynediad Cyhoeddus a Hamdden y Sefydliad Seilwaith Amddiffyn (DIO):
“Roedd y DIO eisiau cefnogi prosiect y Parc i gynyddu cyfleoedd hygyrchedd wrth i ni gydnabod bod y teithiau bws mini yn ffordd wych o ddangos yn ddiogel sut mae’r tirlun anhygoel hwn yn cael ei reoli i gefnogi hyfforddiant milwrol hollbwysig yn ogystal ag amrywiaeth eang o hanes a bywyd gwyllt. Mae’r DIO yn gobeithio y bydd yr ychwanegiad newydd yn cael ei fwynhau gan hyd yn oed mwy o gymuned Sir Benfro a’i ymwelwyr.”
Mae Awdurdod y Parc hefyd yn rhedeg sawl prosiect wedi’i anelu at gysylltu pobl â byd natur, gan gynnwys:
- Gwreiddiau i Adferiad: prosiect llesiant mewn partneriaeth â Mind Sir Benfro, gan ddarparu gweithgareddau awyr agored i gefnogi iechyd meddwl.
- Cynllun Parcmon Ifanc y Parc Cenedlaethol: rhaglen sy’n helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau awyr agored a gwybodaeth cadwraeth.
- Llwybrau: rhaglen a gynlluniwyd i helpu mwy o bobl i dreulio amser ym myd natur drwy gyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddi.
Disgrifiodd cyfranogwr cyson yn y mentrau hyn effaith bositif treulio amser yn y Parc Cenedlaethol, gan ddweud, “Rwy’n dysgu rhywbeth newydd bob munud o bob sesiwn. Rydw i hefyd yn chwerthin llawer, ac rwy’n gwybod bod llawer ohonom yn sylwi os byddwn yn cyrraedd mewn hwyliau drwg y byddwn yn gadael mewn hwyliau da.”
Mae hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy a chysylltu pobl â byd natur yn feysydd ffocws allweddol ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Drwy ddefnyddio bws mini trydan, mae’r Awdurdod yn lleihau ei ôl troed carbon tra’n sicrhau bod mwy o bobl yn gallu elwa ar bŵer adferol byd natur.
I ddysgu mwy am waith Awdurdod y Parc a sut i gymryd rhan yn unrhyw un o’r prosiectau y soniwyd amdanyn nhw, ewch i www.arfordirpenfro.cymru.
