Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn croesawu ei rôl newydd
Mae Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, y Cynghorydd Paul Harries, wedi cael ei ethol i arwain Fforwm Cadeiryddion Parciau Cenedlaethol y DU ar gyfer 2022.
Mae’r Fforwm cenedlaethol yn dod â Chadeiryddion 15 o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr at ei gilydd. Dros y flwyddyn nesaf, bydd y Fforwm yn goruchwylio gwaith sy’n ymwneud â Newid Hinsawdd, cyllid a sicrhau bod pobl o bob cefndir yn gallu cael mynediad at Barciau Cenedlaethol a’u mwynhau.
Dywedodd y Cynghorydd Harries: “Rwy’n falch iawn o fod yn Gadeirydd cyntaf Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i ymgymryd â’r rôl hon, yn enwedig ar adeg mor dyngedfennol yn ein brwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.
“Dros y misoedd nesaf, bydd y Fforwm yn ceisio adeiladu ar y gwaith a wnaed yn ystod COP26 i sefydlu partneriaeth o dirweddau dynodedig o bob cwr o’r byd i weld sut y gall yr amgylcheddau arbennig hyn gyfrannu at ganfod atebion.”
Mae’r Cynghorydd Harries wedi bod yn Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ers 2019, ac ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Parciau Cenedlaethol Cymru. Yn ogystal â hyn, mae’n Gynghorydd Sir dros Drefdraeth, ac ym mis Medi cwblhaodd Her 186 milltir Llwybr Arfordir Penfro.