Camu’n ôl mewn amser am haf o hwyl a dysgu yng Nghastell Caeriw a Chastell Henllys

Posted On : 17/07/2024

Bydd dau atyniad hanesyddol i ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnal rhaglen lawn o weithgareddau a digwyddiadau yr haf hwn, gan gynnig cyfuniad unigryw o addysg ac adloniant i’r teulu cyfan.

Yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, a enillodd wobr Atyniad Ymwelwyr y Flwyddyn yng Ngwobrau Croeso 2023, bydd tymor yr haf yn rhoi ias i lawr eich cefn wrth i’r Daith Ysbrydion boblogaidd ddychwelyd i’r lleoliad eiconig hwn. Bydd y daith dywysedig hon, sy’n canolbwyntio ar ochr dywyll bywyd y Castell, yn cael ei chynnal ar nos Iau amrywiol drwy gydol gwyliau’r ysgol, gan ddechrau ar 18 Gorffennaf. Mae’n rhaid i chi archebu lle.

Bydd yr Ysgol Hud a Lledrith i Ddewiniaid a Gwrachod hefyd yn agor ei drysau ar sawl dyddiad drwy gydol yr haf. Cyflwynir y daith ryngweithiol 45 munud hon i’r rhyfeddol gan Aelod nodedig o’r Cylch Hudol, a fydd yn datgelu rhai o gyfrinachau hud a lledrith ac yn dysgu ambell i dric trawiadol i gynulleidfaoedd roi cynnig arnynt gartref. Mae’n addas i blant 6 oed hyd at oedolion, felly argymhellir yn gryf eich bod yn archebu lle.

Cynhelir Cyffro Canoloesol! yn y Castell bob dydd Sul i ddydd Iau rhwng 21 Gorffennaf a 29 Awst (ac eithrio 25 Gorffennaf a 25-26 Awst), gan gynnig diwrnod yn llawn hwyl canoloesol i bob oed. Gallwch gofrestru ar gyfer yr Ysgol Marchogion, cymryd rhan yn y sesiynau Horrid Histories poblogaidd a’r helfa drysor newydd Dod o hyd i’r Allwedd ar dir y Castell yn rhad ac am ddim gyda thocyn mynediad arferol. Am ffi ychwanegol, bydd ymwelwyr yn gallu mireinio eu sgiliau bwa a saeth drwy roi cynnig ar Saethyddiaeth.

Yn ogystal â’r digwyddiadau cyffrous hyn, bydd rhaglen lwyddiannus Castell Caeriw o gynyrchiadau Theatr Awyr Agored yn dychwelyd yr haf hwn, gyda Little Women ddydd Mawrth 16 Gorffennaf, Peter Pan ddydd Mawrth 6 Awst a Beauty and the Beast ddydd Mercher 21 Awst.

Ymhlith y dyddiadau pwysig eraill mae’r digwyddiad blynyddol Plant yn Rheoli’r Castell! ddydd Iau 25 Gorffennaf, a Phenwythnos o Arfau a Rhyfela, lle bydd Historia Normannis yn cludo Castell Caeriw yn ôl i’r 12fed ganrif ar gyfer penwythnos gŵyl y banc o arddangosfeydd rhyfeddol o frwydro ac arfau.

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau, gan gynnwys prisiau, amserlenni dyddiol a gwybodaeth hanfodol am archebu, ar gael yn www.castellcaeriw.com.

A young boy wielding a sword and shield, standing on front of Carew Castle.

Gall ymwelwyr â Phentref Oes Haearn Castell Henllys edrych ymlaen at raglen lawn arall o weithgareddau a digwyddiadau yn ystod y gwyliau, gan gynnwys Hwyl yn y Gaer bob dydd Mawrth a dydd Iau (ac eithrio dydd Iau 1 Awst), gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau cynhanesyddol ymarferol am ffi ychwanegol. Os byddwch chi’n dod draw ar ddydd Mercher, cewch gyfle i glywed cyfrinachau derwyddon yr Oes Haearn mewn sesiynau ymarferol Hud a Lledrith y Derwyddon, sy’n canolbwyntio ar y grefft o gynnau tân, pobi bara a pheintio wynebau. Mae llefydd ar gyfer sesiynau Hud a Lledrith y Derwyddon yn brin ac mae’n hanfodol archebu lle ymlaen llaw am £7 y plentyn, ar ben y ffi mynediad arferol.

Fel rhan o ŵyl Archaeoleg Prydain, bydd Castell Henllys yn cynnal Diwrnod Darganfod Archaeoleg ddydd Gwener 26 Gorffennaf, gan roi cyfle i ymwelwyr ddarganfod beth sydd ei angen arnynt i fod yn archaeolegwyr a sut mae safleoedd yn cael eu canfod, eu cloddio a’u gwarchod. Bydd eitemau a deunyddiau archaeolegol ar gael i’w harchwilio, a bydd profiad ymarferol o gloddio ar gael i ymwelwyr iau. Codir ffioedd mynediad arferol, gyda thâl ychwanegol am rai gweithgareddau.

Byddwn yn dathlu bod tymor y cynhaeaf ar droed ddydd Iau 1 Awst gyda gweithgareddau arbennig Lughnasadh yn ystod y dydd. Gyda’r nos, bydd ymwelwyr yn dathlu Calan Awst, gyda cherddoriaeth fyw wefreiddiol gan Mari Mathias, cyn perfformiad tân ysblennydd a chynnau’r dyn gwiail. Dylid archebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad poblogaidd hwn ymhell ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eich siomi.

Uchafbwynt arall gwyliau’r haf yw’r digwyddiad Syrcas a Storïau nos Fercher 7 Awst, sy’n cynnwys Collective Flight Syrcas yn perfformio ‘Swyn’ a’r Storïwr clodwiw, Tamar Eluned Williams. Bydd ymwelwyr yn ystod y dydd yn cael cyfle unigryw i roi cynnig ar sgiliau syrcas o’r awyr yng nghanol Pentref yr Oes Haearn, gyda gweithdy rhagarweiniol Sgiliau Syrcas o’r Awyr sy’n addas ar gyfer plant 8 oed a hŷn. Rhaid cadw lle ymlaen llaw ar gyfer y gweithdy a’r digwyddiad gyda’r nos.

Cynhelir sesiwn Chwilota gyda’r Teulu gyda’r chwilotwr proffesiynol Jade Mellor yn y Pentref ddydd Sadwrn 10 Awst, ac ar ddydd Iau 15 Awst, bydd Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru yn cynnal diwrnod Archwilio Afonydd yn yr atyniad, sydd am ddim gyda thocyn mynediad arferol.

Mae rhagor o fanylion am amserlen lawn digwyddiadau’r haf yng Nghastell Henllys, gan gynnwys gwybodaeth am archebu, ar gael yn www.castellhenllys.com.

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i www.arfordirpenfro/digwyddiadau.

A fire eater against a dark background.