Camwch i mewn i antur Nadoligaidd hudol yn Oriel y Parc

Posted On : 26/11/2024

Gwahoddir teuluoedd i fynd ar daith hudolus y gaeaf hwn, ar hyd Llwybr Natur Nadoligaidd y Gaeaf. Bydd y llwybr yn agor ddydd Sadwrn 23 Tachwedd yn Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol, Tyddewi. Mae’r llwybr hudolus hwn, sy’n berffaith i anturiaethwyr o bob oed, yn cyfuno natur, sbort, a hwyl yr ŵyl mewn antur awyr agored.

Bydd ymwelwyr yn datgelu saith anifail gloyw, pob un yn cuddio mewn cynefin unigryw. Gyda thortsh hud arbennig, bydd y cyfranogwyr yn datgelu ac yn casglu anifeiliaid gloyw wrth iddyn nhw ddilyn y llwybr. Ar ôl gorffen, gall teuluoedd fynd yn ôl at y ddesg i ddychwelyd yr anifeiliaid i’w cartrefi Nadoligaidd a hawlio anrheg i Anturiaethwyr Natur o fri.

Cynhelir y digwyddiad difyr hwn rhwng 9.30am a 3.30pm bob dydd tan ddydd Gwener 20 Rhagfyr. £4 y plentyn yw’r pris mynediad, sy’n golygu ei fod yn weithgaredd fforddiadwy a chofiadwy i deuluoedd.

I ychwanegu at hud y Nadolig, bydd Oriel y Parc yn croesawu Blwch Post Pegwn y Gogledd yn ei ôl. Gall plant ysgrifennu llythyrau at Siôn Corn yn rhannu eu dymuniadau ar gyfer y Nadolig, a’u rhoi yn y blwch post arbennig. Ar ôl tri diwrnod, gall teuluoedd ddychwelyd i gael ateb personol gan Siôn Corn, ynghyd â syrpréis o weithdy’r corachod. Bydd y Swyddfa Bost Am Ddim ar agor rhwng dydd Sadwrn 23 Tachwedd a dydd Iau 19 Rhagfyr, yn dod â hwyl yr ŵyl i ymwelwyr o bob oed.

Bydd y dathliadau’n parhau gyda’r Farchnad Nadolig y mae cryn edrych ymlaen ati. Cynhelir y farchnad ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr rhwng 10am a 3pm ac mae’n gyfle perffaith i fwynhau ysbryd yr ŵyl wrth grwydro o gwmpas amrywiaeth o stondinau bwyd a chrefftau lleol. Bydd perfformiadau cerddoriaeth byw gan y Solva Ukuele Pirates a’r Barn Howlers yn creu awyrgylch bywiog drwy gydol y dydd.

Caiff ymwelwyr gyfle i wneud rhywfaint o siopa Nadolig, gydag amrywiaeth eang o anrhegion a thrysorau unigryw wedi’u gwneud â llaw yn cael eu gwerthu gan gynhyrchwyr a gwneuthurwyr talentog o’r ardal leol. Bydd bwyd tymhorol ar gael gan y tîm newydd yn The Brunch House, sy’n cynnig prydau blasus i’w mwynhau ac i gynhesu’r galon yn ystod y digwyddiad. Gyda mynediad a pharcio am ddim, mae’r farchnad yn gyfle gwych i ddathlu tymor y Nadolig a chefnogi crefftwyr lleol.

Mae Oriel y Parc yn falch iawn o groesawu ymwelwyr i’r digwyddiadau arbennig hyn, sy’n cynnig rhywbeth i bawb dros dymor yr ŵyl. O deithiau hudolus i stondinau Nadoligaidd a phost arbennig gan Siôn Corn, mae tymor yr ŵyl yn argoeli i fod yn un bythgofiadwy yn Oriel y Parc.

I gael rhagor o fanylion am ddigwyddiadau’r Nadolig ac oriau agor The Brunch House drwy gydol mis Tachwedd a mis Rhagfyr, ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/