Canolfan ymwelwyr symudol newydd yn barod i helpu ymwelwyr i baratoi ar gyfer Arfordir Penfro
Efallai y bydd pobl sy’n ymweld â rhai o brif draethau a digwyddiadau Sir Benfro yn dod ar draws canolfan wybodaeth symudol newydd cyn bo hir, gyda fan wedi’i haddasu’n arbennig yn barod i fynd ar y ffordd a helpu pobl i fwynhau ymweld â’r ardal.
Bydd fan wybodaeth newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dod i leoliadau glan môr a digwyddiadau lleol poblogaidd, a bydd Parcmyn wrth law i roi cyngor i’r rheini sydd angen help ac i awgrymu gweithgareddau am ddim i’r rheini sy’n awyddus i ddarganfod bywyd gwyllt yr ardal.
Dywedodd Libby Taylor, Rheolwr Gwasanaethau Parcmyn Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
“Bydd y cerbyd newydd hwn yn helpu ein staff i ddarparu amrywiaeth o wybodaeth mewn lleoliadau sy’n boblogaidd iawn â phobl sy’n mwynhau’r Parc Cenedlaethol.
“Yn ogystal â helpu pobl i ddysgu mwy am yr ardal a’r gwahanol ffyrdd y gallan nhw fanteisio i’r eithaf ar eu hymweliad, gall pobl hefyd ddarganfod sut mae gwneud yn siŵr nad ydyn nhw’n cael gormod o effaith ar y Parc yn ystod eu hymweliad.
“Yn ogystal â lloches adlen, mae’r fan hefyd yn cynnwys lle ar gyfer paneli magnetig y gellir eu newid fel bod modd darparu’r wybodaeth sydd fwyaf perthnasol i’r lleoliad neu’r digwyddiad.”
Y cwmni lleol, Poppit Campers sydd wedi trawsnewid y cerbyd, sydd hefyd yn cynnwys panel solar, a fydd yn helpu i bweru dau iPad, i roi cyfle i aelodau’r cyhoedd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am bynciau fel teithiau cerdded ac adnabod bywyd gwyllt yn yr ardal.
Roedd modd prynu ac addasu’r cerbyd diolch i gymorth Llywodraeth Cymru.