Castell Caeriw yn dod i’r brig unwaith eto fel Atyniad Ymwelwyr y Flwyddyn yng Ngwobrau Croeso

Posted On : 13/11/2024

Mae Castell Caeriw, un o drysorau Sir Benfro, wedi dod i’r brig unwaith eto fel Atyniad Ymwelwyr y Flwyddyn yng Ngwobrau Croeso Sir Benfro, gan gadarnhau ei le fel cyrchfan o’r radd flaenaf i ymwelwyr â’r rhanbarth.

Mae’r wobr, a gyflwynwyd mewn seremoni fawreddog yng Ngholeg Sir Benfro, yn cydnabod ymrwymiad parhaus y Castell i ddarparu profiad eithriadol i ymwelwyr. Mae ennill y wobr ddwy flynedd o’r bron yn profi bod Castell Caeriw yn rhoi pwys mawr ar ragoriaeth, gyda’r tywyswyr croesawgar, y gerddi ysblennydd a’r digwyddiadau poblogaidd yn denu ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.

Diolchodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw, am y gydnabyddiaeth barhaus: “Mae ennill y wobr hon am yr ail flwyddyn yn glod i bawb sy’n helpu i ddod â Chastell Caeriw yn fyw – o’r tywyswyr gwybodus i’r cadwraethwyr, i’n tîm ymroddedig o wirfoddolwyr, a’n criw gweithgar yn y caffi. Mae’n waith tîm go-iawn ac mae’n anrhydedd cael ein cydnabod unwaith eto fel un o brif atyniadau Sir Benfro.”

Mae’r Castell wedi bod yn ferw o gyffro drwy gydol y flwyddyn ond mae swyn arbennig i’r lle dros fisoedd tawelach y gaeaf. Mae digwyddiadau tymhorol fel Tywyn, sy’n cynnwys yr arddangosfa hudolus o olau Nadolig, ystafelloedd y Castell wedi’u haddurno’n lliwgar a’r perfformiadau cerddorol byw, yn denu ymwelwyr o bob oed. Eleni dros y Nadolig, byddwn yn cynnal Groto Siôn Corn, Gweithdy Nadoligaidd Ffeltio â Nodwyddau, a Gweithdai Crefft Nadolig i blant. Bydd gennym rywbeth at ddant pawb yn ystod nosweithiau hir y gaeaf.

Mae Castell Caeriw ar agor bob dydd rhwng 11am a 3pm drwy gydol y gaeaf, gydag oriau estynedig rhwng dydd Gwener a dydd Sul adeg y digwyddiadau Tywyn a Groto Siôn Corn.

I gael rhestr lawn o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau sydd ar y gweill yng Nghastell Caeriw, ewch i www.castellcaeriw.com