Cefnogi Her Llwybr Arfordir rhithwir Gwasanaeth Ieuenctid Sir Benfro
Mae staff a phobl ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Sir Benfro yn bwriadu cerdded cyfanswm o 186 milltir yn ystod mis Mai i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru fel rhan o’u dathliadau i ddathlu 50fed pen-blwydd Llwybr Arfordir Penfro.
Roedd clybiau ieuenctid Sir Benfro wedi bwriadu cerdded o leiaf pum milltir o’r Llwybr yr Arfordir Cenedlaethol yr un cyn i’r mesurau cadw pellter cymdeithasol ddod i rym a chyn cau Llwybr yr Arfordir er mwyn atal y Covid-19 rhag lledaenu.
Ond bellach mae’r rheini sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth ieuenctid yn cyfrifo’r pellteroedd y maen nhw’n eu cyflawni yn ystod eu hymarfer corff a ganiateir bob dydd. Gyda chymorth Richard Vaughan, sef Ceidwad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, eu nod yw cerdded, rhedeg neu seiclo cyfanswm o 186 milltir, sef hyd Lwybr Arfordir Penfro, a hynny drwy wneud ymarfer corff yn eu cartrefi.
Dywedodd Richard Vaughan, Ceidwad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Er ei bod yn drueni nad yw’r teithiau cerdded yn gallu digwydd fel y trefnwyd yn wreiddiol, rydw i’n ddiolchgar iawn i Llŷr Tobin a Hannah White, sef y gweithwyr ieuenctid cymunedol, am feddwl am yr her yma ac am ddal ati i annog pobl ifanc lleol i gymryd rhan. Mae dros 100 o filltiroedd wedi’u cofnodi’n barod.
“Rwy’n gobeithio y bydd cymryd rhan yn yr her yma’n ysbrydoli mwy o bobl ifanc lleol i gerdded Llwybr Arfordir Penfro pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Tan hynny, rydyn ni’n gofyn i bawb barchu’r rheolau sydd mewn grym ar gyfer y llwybrau cerdded.
“Yn ogystal â helpu i ddathlu 50 mlynedd ers agor Llwybr Arfordir Penfro yn swyddogol, bydd yr her yma’n codi arian at achos da ac yn helpu i wella iechyd a llesiant y bobl sy’n cymryd rhan hefyd.”
Er mwyn gweld y canllawiau cerdded diweddaraf a rhestr lawn o’r llwybrau sydd wedi cau, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol yn www.arfordirpenfro.cymru.
Er mwyn cyfrannu at y targed codi arian o £300 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, ewch i https://www.justgiving.com/fundraising/pembrokeshire-youth.