Ceir Clasurol yn dychwelyd i Gastell Caeriw ddydd Llun Gŵyl y Banc
Bydd y Castell - sydd â hanes yn dyddio’n ôl 2,000 o flynyddoedd - yn arddangos rhai o’r ceir clasurol a’r hen gerbydau gorau ddydd Llun 1 Mai.
Bydd Castell Caeriw – sy’n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – unwaith eto yn croesawu ceir, beiciau modur a cherbydau milwrol trawiadol yn y digwyddiad blynyddol hwn.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell a Melin Heli Caeriw: “Mae’n rhaid bod pobl yn mwynhau gweld y cerbydau yma mewn cyflwr gwych o flaen y Castell sydd wedi’i warchod yn ofalus gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ers blynyddoedd lawer, oherwydd dyma un o’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd sydd gennym ni.”
Bydd y digwyddiad eleni’n cynnwys arddangosfeydd o feiciau oddi-ar-y-ffordd, arddangosiad o feiciau o Glwb Beiciau Modur Clasurol Arberth, a detholiad o geir clasurol. Bydd y ceir clasurol hyn yn cynnwys Ferrari Dino 246 GT, Morgan Roadster 3.7, Chevorolet Belair 1958, AC Cobra 1979 a Lotus 7, ymysg llawer o geir eraill.
Bydd rhagor o adloniant ar gael gyda ffair stondinau a reidiau gan Atyniadau Sir Benfro, a bydd y plant yn gallu dathlu’r Coroni drwy gymryd rhan mewn helfa drysor hwyliog ar thema Brenhinoedd a Breninesau am £2.
Bydd Ystafell De Nest ar agor drwy gydol y digwyddiad, gan gynnig rholiau cig moch a diodydd poeth yn y bore, a’r dewis arferol o ginio cartref a chacennau am weddill y dydd. Mae ymwelwyr hefyd yn cael eu hannog i gael golwg ar Gastell mawreddog a Melin Heli Caeriw yn ystod eu hymweliad, er mwyn cael gwybod mwy am y digwyddiadau a’r cymeriadau lliwgar a gyfrannodd at hanes diddorol y safle hwn.
Caiff y digwyddiad Ceir Clasurol yng Nghastell Caeriw ei gynnal rhwng 10am a 3pm, a bydd y Castell ar agor rhwng 10am a 4:30pm. Codir tâl mynediad arferol. Oedolion £7, Plant £5, Gostyngiadau £6 a Thocyn Teulu (dau oedolyn a dau o blant) £20.
Cofiwch na fydd y digwyddiad yn mynd rhagddo os bydd y tywydd yn wael. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw neu dilynwch dudalen Facebook Castell Caeriw (Carew Castle and Tidal Mill) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau.
I ddod o hyd i’r digwyddiadau eraill a fydd yn cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystod Gŵyl y Banc eleni a drwy weddill y flwyddyn, ewch i www.www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.