Cerbydau clasurol yng Nghastell Caeriw ar Ŵyl y Banc Calan Mai
Bydd un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y calendr lleol yn dychwelyd y gwanwyn hwn. Mae'r paratoadau wedi dechrau yng Nghastell Caeriw ar gyfer y Sioe Ceir Clasurol sy’n cael ei chynnal yn flynyddol yno. Eleni bydd y sioe yn cael ei chynnal ddydd Llun 5 Mai, sef gŵyl y banc Calan Mai.
Mae’r sioe, sy’n cael ei chynnal ar safle’r Castell a Llyn y Felin, yn denu casgliad trawiadol o geir, beiciau modur a cherbydau milwrol o bob rhan o dde Cymru. Mae’r digwyddiad yn hen ffefryn ymysg y rhai sy’n ymddiddori mewn cerbydau, ac mae ymwelwyr hefyd yn mwynhau’r cyfle unigryw i weld cerbydau clasurol mewn cyflwr mor arbennig, a hynny mewn lleoliad hanesyddol a thrawiadol.
Yn ogystal â’r Sioe Geir, bydd cerddoriaeth fyw a phob math o weithgareddau ar gyfer y teulu cyfan yn rhan o’r digwyddiad, sy’n addo i fod yn ddiwrnod allan amrywiol i bawb. Bydd diodydd poeth a rholiau cig moch ar gael yn y bore, ac yna bydd cinio a chacennau ar gael yn Ystafell De Nest drwy’r prynhawn. Bydd y Castell a’r Felin Heli ar agor fel arfer, ac felly fe gaiff yr ymwelwyr gyfle i edrych ar yr amrywiol arddangosfeydd a fydd yn eu tywys drwy 2,000 o flynyddoedd o hanes, yn ogystal â gwerthfawrogi saernïaeth unigryw’r Castell.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw:
“Mae’r Sioe Ceir Clasurol wedi datblygu i fod yn un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y flwyddyn. Mae’n gyfle gwych i berchnogion cerbydau arddangos eu cerbyd, ac mae hynny’n aml yn destun balchder mawr iddynt. Ond mae hefyd yn gyfle da i ymwelwyr brofi cymysgedd o hanes a threftadaeth, a chael gweld cerbydau modur clasurol – y cyfan yng nghastell unigryw Caeriw.”
Bydd y Sioe Geir yn cael ei chynnal rhwng 10am a 3pm a bydd y Castell ar agor tan 4:30pm. Codir tâl mynediad arferol. Prisiau tocynnau yw: Oedolion £8, Gostyngiadau £7, Plant £6, Teulu £25. Mae’r Sioe Geir yn gynwysedig yn y tâl mynediad. Does dim angen archebu lle o flaen llaw.
Mae’r digwyddiad yn dibynnu ar y tywydd, ac efallai y bydd angen ei ohirio os bydd yr amgylchiadau’n wael. I gael y newyddion diweddaraf, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/ neu dilynwch Gastell a Melin Heli Caeriw ar Facebook.
Sylwer – Roedd cryn ddiddordeb ymysg perchnogion cerbydau eleni, ac o ganlyniad mae’r llefydd arddangos wedi gwerthu allan.
Dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth am y digwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro: www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.
