Cloddio’n ddwfn i orffennol cuddiedig Sir Benfro mewn digwyddiad archeoleg yng Nghastell Caeriw
Bydd Castell Caeriw yn cynnal digwyddiad newydd cyffrous yn nes ymlaen y mis yma. Bydd yn cynnwys diwrnod llawn o weithgareddau addysgiadol a difyr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes ac archeoleg.
Mae Darganfod Hanes: Sir Benfro’r Gorffennol wedi cael ei drefnu ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, a hefyd bydd nifer o amgueddfeydd lleol eraill a grwpiau hanes yn ymuno i ddarparu amrywiaeth eang o sgyrsiau, arddangosfeydd o arteffactau, casgliadau amgueddfeydd, a gweithgareddau archaeoleg ymarferol ar gyfer ymwelwyr o bob oed.
Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle unigryw i archwilio hanes cyfoethog Sir Benfro a dysgu am y darganfyddiadau archeolegol sydd wedi siapio’r rhanbarth dros amser. Yn ystod y digwyddiad, bydd ymwelwyr yn cael cyfle i sgwrsio ag arbenigwyr ac amaturiaid o wahanol feysydd, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau, sgyrsiau a thaith dywys o amgylch tir y Castell.
Dyma rai uchafbwyntiau:
- Gweithgareddau ymarferol i blant a theuluoedd, gan gynnwys pwll cloddio ffug ar gyfer egin-archeolegwyr ifanc
- Sgwrs ryngweithiol ar Hanesion Atgas, Ysgol Marchogion a Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth
- Arddangosfeydd arteffactau gan grwpiau hanes lleol ac amgueddfeydd
- Taith dywys o amgylch y Castell, dan arweiniad tywysydd arbenigol a fydd yn rhannu ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o hanes ac arwyddocâd y Castell.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Rydyn ni’n falch iawn o gynnal Darganfod Hanes: Sir Benfro’r Gorffennol yng Nghastell Caeriw, ac o weithio gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a grwpiau lleol eraill i ddod â’r digwyddiad hwn yn fyw.
“Credwn y bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ymwelwyr ymgysylltu â hanes a threftadaeth gyfoethog Sir Benfro, ac i ddysgu mwy am y darganfyddiadau archeolegol diddorol sydd wedi dylanwadu ar ein dealltwriaeth o’r gorffennol.”
Ymysg y sefydliadau yno bydd Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, Canolfan Dreftadaeth Doc Penfro, Amgueddfa Dinbych-y-pysgod, Ymddiriedolaeth Muriau Tref Penfro, Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Ymddiriedolaeth Hanes Sir Benfro, Cymdeithas Hanes Cilgeti/Begeli, Mwynchwilwyr Sir Benfro a’r Swyddog Cynllun Hynafiaethau Cludadwy, ynghyd â Tomos Ll. Jones, Archaeolegydd Cymunedol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Cynhelir Darganfod Hanes: Sir Benfro’r Gorffennol yn cael ei gynnal ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023 rhwng 10am a 4pm yng Nghastell Caeriw. Mae’r digwyddiad yn agored i bobl o bob oed ac mae’n rhad ac am ddim gyda’r pris mynediad arferol i’r Castell.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.castellcaeriw.com neu cysylltwch â’r Castell yn uniongyrchol drwy anfon e-bost at ymholiadau@carewcastle.com.