Cydnabod naws hanesyddol Cei Cresswell a rhoi statws Ardal Gadwraeth iddo

Posted On : 24/10/2024

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cymeradwyo rhoi statws Ardal Gadwraeth i Cei Cresswell, gan gydnabod ei bensaernïaeth unigryw, a’i arwyddocâd hanesyddol. Cafodd y penderfyniad ei gadarnhau gan Aelodau o Awdurdod y Parc mewn cyfarfod ddydd Mercher, 23 Hydref. Mae’n dod wedi cyfnod hir o drafod, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mynegodd y gymuned ei chefnogaeth.

Bydd cael statws Ardal Gadwraeth yn help wrth geisio gwarchod cymeriad unigryw Cei Cresswell ac yn sicrhau bod unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol yn ychwanegu at rinweddau hanesyddol a naturiol y Cei.

Dywedodd Sara Morris, Cyfarwyddwr Lle a Chynhwysiant: “Mae dynodi Cei Cresswell yn Ardal Gadwraeth yn darparu gwarchodaeth hanfodol i’r amgylchedd adeiledig yn ogystal â’r dirwedd sydd o’i amgylch. Rydym ni wedi ystyried adborth gwerthfawr y gymuned, gan gynnwys ymestyn ffiniau’r cei i gynnwys coetir ar lan ogleddol yr aber.”

Yn ystod yr Ymgynghoriad Cyhoeddus a gymerodd wyth wythnos i’w gwblhau, cynhaliwyd digwyddiad galw heibio yn ysgoldy Capel Pisgah. Cafwyd ymatebion cadarnhaol gan y gymuned, a doedd gan neb wrthwynebiad. Bydd y statws newydd yn cael ei gyhoeddi’n swyddogol mewn hysbysiadau statudol, mewn papur newydd lleol, ac yn cael ei nodi yn y London Gazette.

Cwblhawyd Asesiad Integredig fel rhan o’r broses er mwyn pwyso a mesur effaith y dynodiad newydd ar fioamrywiaeth, yr Iaith Gymraeg, a ffactorau eraill. Bydd yr Awdurdod yn datblygu Cynllun Rheoli a Datblygu Ardaloedd Cadwraeth, ac rydym ni’n gobeithio cyhoeddi’r cynllun ddechrau 2025.