Cyffro’r Pasg ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau sy’n addas i bob aelod o’r teulu dros wyliau’r Pasg, yn amrywio o helfeydd trysor i’r bobl ifanc i deithiau tywys i gerddwyr brwdfrydig.
Gyda’r Parc Cenedlaethol yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed a phenwythnos y Pasg yn dod ar ddiwedd Pythefnos Darganfod Parciau Cenedlaethol (2-18 Ebrill), does dim amser gwell i fynd allan i weld beth sydd gan Arfordir Penfro i’w gynnig.
Yn ogystal â gweithgareddau, digwyddiadau ac arddangosfeydd yn 3 atyniad i ymwelwyr Awdurdod y Parc, mae digon o gyfleoedd i grwydro o gwmpas y Parc Cenedlaethol a dysgu mwy am hanes, diwylliant a bywyd gwyllt yr ardal.
Yng Nghastell Caeriw, gall plant ennill gwobr Pasg blasus drwy ddefnyddio ffôn clyfar i ddod o hyd i’r holl wyau mae’r ddraig wedi’u cuddio o amgylch y safle. Ar gael hyd at 24 Ebrill. £1 i blant.
Bydd y rheini sy’n ymweld â’r safle ddydd Sadwrn 16 Ebrill yn gallu mwynhau digwyddiad y Merrymakers yn Meddiannu Castell Caeriw! Diwrnod llawn hwyl o arfau gwarchae, chwerthin a hyd yn oed draig yng Nghaeriw! 10am-4.30pm. Wedi’i gynnwys yn y pris mynediad arferol.
Bydd Stori Dylwyth Teg gyda Ffrindiau Tylwyth Teg y Goedwig yn cadw eich plant ifanc egnïol yn brysur ar 19 a 20 Ebrill, gyda sesiynau am 11am, 1.30pm a 3pm. Bydd yr antur ryngweithiol yn cynnwys dawnsio, canu a chomedi. Perfformiad a gweithdy £5 y pen, yn ogystal â’r pris mynediad arferol. 3 oed a hŷn.
Am fanylion llawn, gan gynnwys amseroedd a phrisiau mynediad, ewch i wefan Castell Caeriw.
Bydd Pentref Oes Haearn Castell Henllys yn cynnig cyfle i deithio’n ôl mewn amser ac Ymuno â’r Llwyth ar 12, 14, 19, 21 Ebrill gyda dwy sesiwn bob dydd rhwng 10am a hanner dydd a rhwng 2pm a 3.30pm. Bydd y profiad dysgu cyffrous a hudolus hwn yn rhoi cyfle i blant rhwng 6 ac 11 oed ddysgu am ffordd o fyw yr Oes Haearn drwy sgyrsiau a gweithgareddau ymarferol, fel gwneud bara, hyfforddi rhyfelwyr ac adeiladu. Rhaid i blant gael eu goruchwylio gan oedolyn sy’n talu. £5 yn ogystal â’r pris mynediad arferol.
I rheini ohonoch sy’n caru eich bwyd mae sesiynau Twrio i’r Teulu yn cael ei gynnal rhwng 10am a 12.30pm ddydd Sadwrn 16 Ebrill. Ymunwch â’r daith fwyd wyllt gyda’r chwilotwr proffesiynol Jade Mellor, lle byddwch yn chwilio am y planhigion tymhorol mwyaf blasus ac yn gwneud potyn bach o fwyd gwyllt i fynd adref gyda chi. £20 y pen (yn cynnwys mynediad i’r safle).
Rhaid archebu lle ar gyfer mynediad a digwyddiadau. Archebwch ar-lein am ddim a thalu wrth gyrraedd. I gael manylion llawn, gan gynnwys oriau agor a phrisiau, ewch i wefan Castell Henllys.
Yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, mae’r amrywiaeth o arddangosfeydd yn cynnwys Ar Eich Stepen Drws, sy’n cael ei arddangos yn oriel Amgueddfa Cymru. Bwriad Ar Eich Stepen Drws yw ysbrydoli pawb i archwilio’r natur, y ddaeareg a’r archaeoleg sy’n bodoli o’n cwmpas, a mwynhau’r manteision iechyd a lles y gall y rhain eu cynnig. Mae Ar Eich Stepen Drws ar agor rhwng 10am a 4pm bob dydd tan Wanwyn 2023.
Bydd y Llwybr Hwyl y Pasg arbennig yn Oriel y Parc yn herio eich plant i chwilota am y darnau o’r wy cudd, gan greu llun Pasg wrth iddyn nhw fwrw ymlaen a’u tasg er mwyn ceisio ennill gwobr arbennig. £2 i blant. Ar gael hyd at 24 Ebrill.
Cynhelir dau ddigwyddiad arbennig ar gyfer Clwb Dydd Mercher yn ystod gwyliau’r Pasg, gyda gweithdy galw heibio ar gyfer Plannu Planhigion Gwenyn Cyfeillgar rhwng 11am a 3pm ar 13 Ebrill. Helpwch y gwenyn a chael ychydig o hwyl yn yr ardd. £3 i blant.
Ddydd Mercher, 20 Ebrill, bydd Llwybr Natur Sant Non yn cael ei lansio, gyda chyfle i wneud eich plac rhwbio natur eich hun rhwng 11am a 3pm cyn i chi ddilyn y llwybr a darganfod natur a hanes y safle cysegredig hwn.
I gael manylion llawn, gan gynnwys oriau agor a phrisiau, ewch i wefan Oriel y Parc.
Os ydych chi’n awyddus i archwilio’r Parc Cenedlaethol ar droed gyda thywysydd arbenigol, mae amrywiaeth o deithiau cerdded yn yr awyr agored yn y Parc Cenedlaethol.
Bydd Taith Gerdded gyntaf Maes Tanio Castellmartin yn 2022 yn cael ei chynnal ddydd Sul 17 Ebrill rhwng 9.30am a 4pm. Ar y daith gerdded hon cewch gyfle i ymlwybro drwy ardal fewnol y Maes Tanio gan ddarganfod ei fywyd gwyllt, ei ddefnydd presennol ar gyfer gweithgareddau milwrol a’i hanes – prin iawn yw’r cyfle i bobl ymweld â’r safle. Dim ond pobl dros 18 oed. Nifer cyfyngedig o gyfleusterau ar y safle. Sori, dim cŵn. £6 y pen.
Mae Ystlumod Ysblennydd yn Nhyddewi yn rhoi cyfle i chi ymuno â’n Parcmon lleol ar gyfer taith gerdded sy’n addas i deuluoedd i ddarganfod mwy am y creaduriaid nosol hyn o 7.30pm ar 20 Ebrill.
Rhaid archebu lle ar gyfer pob taith dywys. Ewch i’n calendr digwyddiadau i gadw eich lle.