Cyfle i chi leisio eich barn ar Orchymyn Parcio Ceir newydd y Parc Cenedlaethol
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn bwriadu diweddaru ei Orchymyn Parcio Oddi ar y Stryd sy’n darparu’r sail gyfreithiol ar gyfer rheoli ei feysydd parcio.
Fel yr Awdurdod Priffyrdd, bydd Cyngor Sir Benfro yn rhoi’r broses gyfreithiol ffurfiol sy’n ofynnol ar waith er mwyn gweithredu’r gorchymyn newydd ar ran Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Cafodd y gorchymyn presennol ei ddiwygio ddiwethaf yn 2018.
Mae’r newidiadau a gynigir yn cynnwys newid y cyfnod codi tâl tymhorol, felly mae’n rhedeg o 1 Mawrth tan 31 Hydref, yn lle 15 Mawrth i 7 Tachwedd.
Cynigir newidiadau i ffioedd talu ac arddangos (sydd hefyd yn cynnwys taliadau a wneir drwy PayByPhone):
- Ar gyfer arosiadau o 1 awr, cynnydd o £1 i £1.50.
- Ar gyfer arosiadau o 2 awr, cynnydd o £2 i £3.
- Newid yr arhosiad 3 awr i opsiwn aros 4 awr, gyda thariff o £4.50.
- Ar gyfer tocynnau dyddiol, cynnydd o £5 i £6.
Ar ben hyn, cynigir newid yr ardal sy’n dod o dan y Gorchymyn Parcio Ceir i gynnwys yr ardal o Draeth Mawr sy’n eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yn ogystal â’r maes parcio er mwyn gallu cymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw un sy’n parcio ar y tir hwn.
Ceir manylion llawn y cynigion yn y Gorchymyn Drafft, sydd ynghyd â chynlluniau yn dangos y meysydd parcio penodol yr effeithir arnynt, copi o Orchymyn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2015 a datganiad o resymau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro dros gynnig gwneud y Gorchymyn, i’w harchwilio yn Neuadd y Sir, Hwlffordd; Swyddfeydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym Mharc Llanion, Doc Penfro; yn ystod oriau agor arferol. Gellir gweld y Gorchymyn hefyd ar www.pembrokeshire.gov.uk a hefyd https://www.arfordirpenfro.cymru/.
Rhaid cyflwyno pob gwrthwynebiad ac unrhyw sylwadau eraill sy’n ymwneud â’r Gorchymyn arfaethedig yn ysgrifenedig a dylid eu hanfon i’r cyfeiriad a ddarperir isod erbyn 9 Tachwedd 2023.
Darren Thomas
Pennaeth Seilwaith a’r Amgylchedd
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP