Cyfle i ddarganfod byd y Geiriau Diflanedig gyda’r darlunydd Jackie Morris
Bydd y darlunydd enwog, Jackie Morris, yn ymddangos ochr yn ochr â’i gwaith ei hun yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi ar gyfer digwyddiad unigryw sy’n rhan o’r arddangosfa gyfredol Geiriau Diflanedig - The Lost Words.
Mae’r llyfr Geiriau Diflanedig wedi ennill gwobrau ac mae’n edrych ar y berthynas rhwng iaith a’r byd byw. Mae’r arddangosfa deithiol yn dwyn ynghyd y gwaith celf gwreiddiol gan Jackie Morris a’r cerddi Cymraeg gan Mererid Hopwood a’r cerddi Saesneg gan Robert Macfarlane.
Bydd y digwyddiad galw heibio rhad ac am ddim ddydd Sadwrn 4 Tachwedd yn rhoi cyfle i ymwelwyr gwrdd â darlunydd y llyfr wrth iddi dreulio’r diwrnod yn rhannu ei gwaith yn yr Oriel.
Dywedodd Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc:
“Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ymgolli ym myd hudolus Geiriau Diflanedig a chysylltu â’r artist sy’n gyfrifol am y darluniau hudolus. Agorodd yr arddangosfa ddechrau mis Gorffennaf ac mae wedi bod yn boblogaidd dros ben. Mae wedi rhoi cyfle i ymwelwyr weld yr ymdrechion sy’n cael eu gwneud i fynd i’r afael â’r bygythiadau sy’n wynebu natur a’r Gymraeg.”
Bydd Jackie Morris: Darlunio a Pheintio yn yr Oriel yn cael ei gynnal yn Oriel y Parc rhwng 10am a 4pm ddydd Sadwrn 4 Tachwedd.
Mae geiriau a dyfrlliwiau o’r llyfr hefyd yn cael eu harddangos yn yr Ysgwrn yng Ngwynedd fel rhan o’r cydweithio rhwng Amgueddfa Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa Geiriau Diflanedig – The Lost Words ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/geiriau-diflanedig/.
Mae rhagor o wybodaeth am amseroedd agor yn ogystal â digwyddiadau ac arddangosfeydd eraill yn Oriel y Parc ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc.