Cyfle i ddweud eich dweud am weledigaeth newydd ar gyfer y Parc Cenedlaethol
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn eich gwahodd i rannu eich barn ar ba fath o Barc Cenedlaethol rydych chi’n dymuno ei weld yn y dyfodol.
Fel llawer o sefydliadau eraill, mae’r Awdurdod wedi cael blwyddyn heriol yn delio ag effaith pandemig y Coronafeirws ac yn ymateb iddo. Mae nawr yn edrych tua’r dyfodol ac yn galw ar bobl leol, busnesau ac ymwelwyr i roi adborth ar eu blaenoriaethau ar gyfer yr Awdurdod a’u gweledigaeth ar gyfer y Parc Cenedlaethol.
Mae Arfordir Penfro yn gwneud cyfraniad hollbwysig at gefnogi diwydiant twristiaeth y sir, ac fe gafodd ei ddewis fel yr hoff Barc Cenedlaethol ond un yn y DU mewn arolwg Which? diweddar.
Rôl yr Awdurdod yw gofalu am dirwedd, treftadaeth ddiwylliannol a bywyd gwyllt y Parc, helpu pawb i gael mynediad ato a’i fwynhau, ac i gefnogi’r bobl a’r busnesau sy’n ei alw’n gartref.
Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:
“Rydyn ni eisiau sicrhau ein bod yn adeiladu’n ôl yn well wrth i ni symud ymlaen o’r pandemig, gan gyflawni ein cyfrifoldebau cyfreithiol a pholisi a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae angen i ni hefyd sicrhau ein bod yn barod i ddelio â heriau ariannol a thechnolegol yn y dyfodol.
“O ganlyniad, rydyn ni’n adolygu ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol ac yn awyddus i ymgysylltu â chymaint o bobl â phosibl o amrywiaeth o gefndiroedd i ddarganfod beth yw barn pobl ynglŷn â’r agweddau pwysicaf ar waith Awdurdod y Parc Cenedlaethol.”
I ddweud eich dweud, lenwch arolwg Weledigaeth Newydd y Parc Cenedlaethol.
Bydd yr ymgynghoriad yn para tan ddydd Gwener 16 Gorffennaf 2021.