Cyfle i redeg caffi yn lleoliad hanesyddol unigryw Castell Henllys

Posted On : 14/01/2025

Mae cyfle cyffrous wedi codi i redeg y caffi ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys, sy’n atyniad unigryw yng nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Gwahoddir datganiadau o ddiddordeb ar gyfer y cytundeb pum mlynedd hwn, a fydd yn dechrau cyn gynted â phosibl.

Mae Castell Henllys yn swatio mewn safle 11 erw trawiadol o goetir a dolydd ar lan yr afon, ac mae’n cynnig profiad heb ei ail i ymwelwyr. Dyma’r unig Bentref Oes Haearn ym Mhrydain lle mae’r tai crwn sydd wedi’u hailadeiladu yn sefyll ar eu safleoedd archeolegol gwreiddiol sy’n dyddio’n ôl 2,000 o flynyddoedd. Mae’r safle, sy’n eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac yn cael ei reoli ganddo, yn cyfuno hanes, natur a diwylliant i greu cyrchfan y mae’n rhaid ymweld â hi.

Bob blwyddyn, mae tua 23,000 o ymwelwyr yn ymweld â’r tai crwn sydd wedi’u hailadeiladu yn y Pentref, y siop anrhegion, y man chwarae i blant, a’r caffi ar lan yr afon. Mae’r caffi’n gwasanaethu twristiaid a’r gymuned leol ffyddlon, diolch i’w gynllun hygyrch a’i awyrgylch agored.

Mae digwyddiadau a gwyliau diwylliannol rheolaidd ar thema Geltaidd yn denu pobl yno, gan ddarparu cyfleoedd arlwyo sy’n amrywio o luniaeth yn ystod y dydd i ddigwyddiadau gyda’r nos.

Rhaid cyflwyno datganiadau ffurfiol o ddiddordeb erbyn hanner dydd, ddydd Mercher 29 Ionawr 2025. Dylai partïon sydd â diddordeb gysylltu â JJ Morris i gael y dogfennau gofynnol, gan gynnwys copi enghreifftiol o gytundeb y fasnachfraint a’r Ffurflen Datgan Diddordeb.

I drefnu ymweliad, cysylltwch â Chastell Henllys ar 01239 891319 yn ystod oriau agor y safle (10am tan 3pm, dydd Mercher i ddydd Sul) a siaradwch â Rheolwr y Ganolfan.

Mae rhagor o wybodaeth am y cyfle cyffrous hwn ar gael yn www.jjmorris.com/all-properties/property/3886-castell-henllys-cafe-felindre-farchog-crymych-castell-henllys-cafe-felindre-farchog-crymych.