Cyfle i roi sylwadau ar Adroddiad Adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Peidiwch â cholli eich cyfle i roi sylwadau ar y ddogfen sy’n amlinellu datblygiadau ar gyfer y dyfodol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wrthi’n adolygu ei Gynllun Datblygu Lleol, a fabwysiadwyd yn 2020. Rhaid i bob Awdurdod Cynllunio Lleol gynnal adolygiadau rheolaidd o’i Gynllun Datblygu Lleol i asesu a yw’r cynllun yn dal i fod yn gyfredol, neu a oes angen gwneud newidiadau.
Pwrpas Cynllun Datblygu Lleol yw nodi’r blaenoriaethau ar gyfer datblygu ardal. Mae’n cynnwys tai, datblygiadau masnachol, cyhoeddus a phreifat, seilwaith trafnidiaeth a diogelu’r amgylchedd lleol. Ynddo rhoddir canllawiau clir ynghylch pa ddatblygiadau a fydd yn cael eu caniatáu a pha rai na fyddant yn cael eu caniatáu yn yr ardal.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi paratoi ‘adroddiad adolygu’ sy’n nodi’r prif feysydd lle mae angen gwneud newidiadau i’r cynllun gwreiddiol, a fabwysiadwyd yn 2020.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol hefyd wedi paratoi’r Adroddiad Monitro Blynyddol diweddaraf ar gyfer 2023-2024. Dogfen yw hon sy’n mesur amryw o ddangosyddion i asesu perfformiad y polisïau cynllunio unigol a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig.
Gwahoddir pobl i ddarllen adroddiad yr adolygiad ac adroddiad monitro blynyddol 2023-2024 a rhoi sylwadau arnynt fel rhan o broses ymgynghori.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg o ddydd Gwener 10 Ionawr tan 5pm ddydd Gwener 21 Chwefror. Rhaid i’r holl sylwadau fod yn ysgrifenedig a byddant i gyd yn cael eu cyhoeddi.
Mae rhagor o wybodaeth a chopïau o’r dogfennau i’w llwytho i lawr ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/cymryd-rhan/ymgynghoriadau-cyhoeddus/ a gellir eu gweld ar-lein mewn llyfrgelloedd cyhoeddus.
Mae’r dogfennau’n ymwneud â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Cyngor Sir Penfro yw’r awdurdod cynllunio ar gyfer gweddill Sir Benfro ac mae ganddo ei Gynllun Datblygu Lleol ei hun.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Polisi Strategol yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY, ffoniwch 01646 624800, neu anfonwch e-bost at devplans@pembrokeshirecoast.org.uk