Cyfres o deithiau cerdded hygyrch ar y gweill yn y Parc Cenedlaethol

Posted On : 05/09/2024

Bydd cyfres o deithiau cerdded hygyrch yn cael eu cynnal bob pythefnos ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gan ddechrau gyda thaith gerdded hamddenol drwy Aberllydan ym mis Medi.

Mae’r daith gerdded gyntaf hon wedi cael ei threfnu fel rhan o Ŵyl Gerdded flynyddol y Gymdeithas Hostelau Ieuenctid (YHA), sy’n ceisio rhoi hwb i iechyd a lles y genedl, yn ogystal â helpu pobl i ddysgu sgiliau cerdded newydd ac i gysylltu â byd natur a’r awyr agored.

Fel rhan o ymrwymiad Awdurdod y Parc a YHA i gynhwysiant, mae’r daith gerdded dywysedig o amgylch un o fannau harddaf Sir Benfro, sydd wedi’i threfnu ar gyfer dydd Sadwrn 14 Medi, yn addas i gadeiriau olwyn a bydd dehongliad BSL ar gael ar hyd y llwybr. Sylwer bod modd llogi offer symudedd am ddim cyn y digwyddiad hwn.

Dywedodd Ben Macare, Cydlynydd Awyr Agored Awdurdod y Parc, a fydd yn arwain y daith gerdded:

“Ers amser maith, mae Sir Benfro wedi cael ei hystyried yn un o’r cyrchfannau cerdded gorau yn y byd, ac mae’n dod yn fwy hygyrch nag erioed.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pobl o bob gallu a chefndir i’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn, lle byddwn ni’n edrych ar y creaduriaid sy’n byw yn rhai o’r pyllau glan môr ar draeth Aberllydan ac ar fioamrywiaeth y gwlyptiroedd datblygedig y tu ôl i’r pentref.”

Bydd y Daith Gerdded Gymdeithasol Hygyrch o YHA Aberllydan yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 14 Medi. Bydd y daith yn 1.6 milltir i gyd ac amcangyfrifir y bydd yn cymryd tua dwy awr – gyda phaned o de a darn o gacen am ddim yn yr hostel wedyn. Rydyn ni’n eich cynghori i wisgo welingtons neu esgidiau dŵr wrth gerdded ar hyd y traeth.

Er bod y digwyddiad yn rhad ac am ddim, dim ond lle i 20 o bobl sydd, ar sail y cyntaf i’r felin. Rydyn ni’n annog y sawl sy’n dod i roi cyfraniad gwirfoddol tuag at apêl Calon y Gymuned YHA i osod diffibrilwyr a all achub bywydau ym mhob hostel YHA. I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://getinvolved.yha.org.uk/fundraising/appeals/heart-of-the-community/.

I archebu eich lle, anfonwch e-bost i events@pembrokeshirecoast.org.uk gan roi ‘Gŵyl Gerdded YHA’ fel pwnc yr e-bost.

Ewch i https://www.yha.org.uk/festival-of-walking/social-walks i weld digwyddiadau eraill sydd ar y gweill fel rhan o Ŵyl Gerdded YHA.

Mae rhagor o wybodaeth am draethau, golygfannau a theithiau cerdded hygyrch ynghyd â chadeiriau olwyn ac offer symudedd sydd ar gael ar draethau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael yn https://www.arfordirpenfro.cymru/pethau-iw-gwneud/mynediad-i-bawb/.

Broad Haven seafront