Cyllid newydd ar gyfer dysgu yn yr awyr agored yn Sir Benfro

Posted On : 16/07/2024

Mae cynllun Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro (PODS) wedi elwa’n ddiweddar o gyllid a chefnogaeth gan fusnesau, cynghorau cymuned ac ymddiriedolaethau elusennol lleol i’w alluogi i barhau i gefnogi ysgolion a dysgwyr yn y sir.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n cydlynu PODS. Mae’n cefnogi rhwydwaith o sefydliadau arbenigol, athrawon ac ymgynghorwyr awdurdodau lleol gyda’r nod o alluogi dysgwyr i elwa o brofiadau dysgu awyr agored o ansawdd uchel, gan annog plant i ymgysylltu’n llawn â’u hamgylchedd lleol a bod yn hyderus ynddo.

Gyda chefnogaeth un o bartneriaid PODS, sef Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, cynhaliwyd apêl am gyllid ychwanegol gan ddenu cyfraniadau o amrywiaeth o ffynonellau. Yn eu plith, derbyniwyd cymorth grant o £15,000 gan Gronfa Cyfoethogi Sir Benfro i gefnogi’r cynllun Ysgolion Awyr Agored.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth:

“Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi prosiect Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro. Mae hwn yn gynllun hanfodol sy’n helpu disgyblion ledled Sir Benfro i ddeall pwysigrwydd ein cynefin naturiol. Fyddai’r gwaith hwn ddim yn bosib heb gefnogaeth hael llawer o gyllidwyr anhygoel. Mae eu mewnbwn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r achos hwn.”

Roedd sawl cyngor cymuned, yn cynnwys Cyngor Tref Hwlffordd, Cyngor Cymuned Scleddau a Chyngor Tref Trefdraeth, wedi rhoi cyfraniadau a mynegi eu cefnogaeth i waith partneriaeth PODS. Cafwyd cefnogaeth hefyd gan Fferm Solar Llywyndu drwy Gronfa Solar NextEnergy.

Dywedodd Bryony Rees, Cydlynydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro,

“Mae cydnabyddiaeth gynyddol o ba mor werthfawr yw dysgu yn yr awyr agored i’n plant, o ran pynciau a themâu penodol, a hefyd o ran y manteision i iechyd a llesiant yn gyffredinol.  Nod PODS yw manteisio i’r eithaf ar lecynnau awyr agored anhygoel Sir Benfro, nid yn unig yn y Parc Cenedlaethol, ond hefyd yng nghymunedau ein hysgolion. O’r herwydd, mae’r cyllid ychwanegol hwn yn cael ei werthfawrogi’n fawr.”

Ledled Sir Benfro, mae ysgolion a staff addysgu wedi gallu darparu profiadau dysgu gwerthfawr i ddisgyblion, wedi’u cefnogi’n aml gan arbenigwyr dysgu yn yr awyr agored sy’n rhan o’r bartneriaeth Ysgolion Awyr Agored, neu drwy ddefnyddio’r adnoddau a’r hyfforddiant a ddarperir.

Mae Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro yn dibynnu ar gyllid allanol i barhau â’u gwaith gydag ysgolion a dysgwyr. Yn gynharach eleni, roedd rhodd gan Blue Gem Wind wedi galluogi’r Cydlynydd PODS i gynnig cymorth wedi’i dargedu i ysgolion uwchradd yn yr ardal. Roedd hyn yn cynnwys diwrnod her arfordirol yn Niwgwl gyda disgyblion Blwyddyn 8 o Ysgol Henry Tudor, gyda chefnogaeth tîm addysg Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Fforwm Arfordir Sir Benfro.

I gael rhagor o wybodaeth am Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, cysylltwch â bryonyr@pembrokeshirecoast.org.uk, ffoniwch 07870 488014 neu ewch i wefan Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro: https://pembrokeshireoutdoorschools.co.uk/cy/hafan-2/.

Os hoffech chi gyfrannu at brosiect PODS, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy support@pembrokeshirecoasttrust.wales.

A young girl learning how to light an outdoor fire with the help of PODS staff