Cyllid wedi’i gymeradwyo ar gyfer 12 prosiect arall yn Sir Benfro
Bydd prosiectau cymunedol sy’n cyfrannu at leihau carbon ac yn helpu i ymateb i’r argyfwng hinsawdd yn cael bron i £200,000 gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Yn dilyn penderfyniadau a wnaed gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod y Parc ar 5 Hydref, bydd y cyfanswm yn cael ei rannu rhwng 12 o brosiectau yn Sir Benfro, sy’n amrywio o inswleiddio a gosod paneli solar i oleuadau solar a digwyddiadau tyfu bwyd cymunedol.
Gall ymgeiswyr cymwys wneud cais ar gyfer prosiectau i ddarparu cyfleusterau cynhyrchu ynni adnewyddadwy i adeilad cymunedol, mentrau i hyrwyddo gostyngiad mewn allyriadau carbon ym maes trafnidiaeth, cynlluniau i osod cyfleuster cymunedol sy’n lleihau gwastraff, neu unrhyw gynlluniau eraill i leihau carbon yn y gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Mike James, Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod y Parc:
“Roedd y pwyllgor yn falch iawn o gymeradwyo amrywiaeth geisiadau gan glybiau a grwpiau cymunedol sy’n meddwl am ffyrdd newydd o ddefnyddio ynni adnewyddadwy, defnyddio llai o ynni a gwneud newidiadau cadarnhaol ar adeg pan fo pris ynni mor uchel.
“Mae’r mudiadau hyn yn darparu cefnogaeth amrywiol i’w cymunedau lleol, felly mae’n werthfawr gallu eu helpu i leihau costau rhedeg eu gweithgareddau a helpu i’w gwneud yn fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”
Bydd Cymdeithas Gymunedol Cilgeti a Begeli yn cael £13,529 i osod paneli solar ar y Ganolfan Gymunedol. Bydd Ambiwlans Sant Ioan Cymru yn cael £17,176 i osod system solar ffotofoltäig gyda storfa fatri yn eu canolfan hyfforddi.
Bydd Neuadd Bentref Llandyfái yn cael £7,296 i osod batri storio gwres yn lle boeler nwy ar gyfer gwresogi dŵr, a bydd Tafarn Gymunedol White Hart yn cael £9,525 i inswleiddio’r to a gosod paneli solar.
Bydd Clwb Rygbi Hwlffordd yn cael £9,623 i osod paneli solar ffotofoltäig ar adeilad y clwb. Bydd Canolfan Clydau yn cael £11,663 i greu ystafell sychu dillad sy’n defnyddio ynni solar, a chysgodfan ddiogel i feiciau.
Bydd Grŵp 1af Sgowtiau Johnston yn cael £1,610 ar gyfer goleuadau solar ym maes parcio Neuadd y Sgowtiaid, a bydd Ymddiriedolaeth Gymunedol Pater Hall yn cael £3,016 tuag at insiwleiddio’r Neuadd Gymunedol.
Bydd Ffynnone – Cadernid Cymunedol yng Ngogledd Ddwyrain Sir Benfro yn cael £25,000 i ddarparu digwyddiadau tyfu bwyd ar gyfer y gymuned, yn dilyn cyfnod peilot llwyddiannus, a bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cael £61,634 tuag at gyflogi Swyddog Gweithredu Awyr Dywyll am dair blynedd.
Bydd Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod yn cael £10,624 tuag at welliannau gwresogi, goleuo a lleihau ynni, a bydd Ecodewi yn cael £19,760 i redeg prosiect cymunedol 18 mis sy’n sbarduno gweithredu ar lawr gwlad i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Y dyddiad cau nesaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw 12pm ddydd Llun 2 Ionawr 2023.
I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy sy’n bodoli eisoes, i lwytho ffurflen gais i lawr neu i wneud cais ar-lein, ewch i’n tudalen CDC.