Cymorth gan Blue Gem Wind yn hybu dysgu yn yr awyr agored yn Sir Benfro
Mae partneriaeth Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro (PODS) wedi cael hwb sylweddol ar ffurf cyfraniad o £7,500 gan Blue Gem Wind. Cyrhaeddodd y cyllid amser allweddol ar gyfer y fenter addysg awyr agored, gan alluogi prosiectau sy’n cysylltu dysgwyr â mannau awyr agored arbennig Sir Benfro, sy’n cynnwys ei Pharc Cenedlaethol.
Un o’r prif feysydd ffocws i elwa o’r cyllid oedd datblygu adnoddau dysgu pwrpasol ar gyfer yr arddangosfa Calon a Chymuned – RNLI 200 Cymru, sy’n cael ei chynnal gan Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol tan fis Mehefin 2025.
Mae’r adnoddau wedi cael eu dylunio i ennyn diddordeb dysgwyr yng ngwaith hanfodol yr RNLI, p’un a ydyn nhw’n gallu ymweld â’r arddangosfa ai peidio. Rhoddwyd y rhain at ei gilydd gan Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro i gynnwys amrywiaeth o bartneriaid – gan gynnwys Awdurdod y Parc, Fforwm Arfordirol Sir Benfro, Darwin Science, RNLI, Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro, y Cyngor Astudiaethau Maes, a Câr y Môr – ac maent yn ymdrin â phynciau fel ynni adnewyddadwy, bywyd gwyllt arfordirol a threftadaeth forwrol Sir Benfro.
Dywedodd Bryony Rees, Cydlynydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro: “Mae’r cyllid hwn wedi’n galluogi ni i ddatblygu adnoddau dysgu diddorol sy’n dod â gwaith yr RNLI yn fyw. Drwy archwilio treftadaeth arfordirol a chymunedau morwrol Sir Benfro, mae’r deunyddiau hyn yn darparu cyfleoedd dysgu ystyrlon i blant yn yr ystafell ddosbarth a’r tu hwnt.”
Roedd y cyllid hefyd wedi cefnogi profiad dysgu awyr agored pwysig i ddisgyblion Blwyddyn 8 o Ysgol Henry Tudor ym Mhenfro, a gymerodd ran mewn rhaglen ymarferol ar draeth Niwgwl. Roedd yr ymweliad yn ymdrin â phynciau fel newid hinsawdd, rheoli hamdden, daeareg, a ‘chelf yn yr amgylchedd’, gan ddefnyddio lleoliad arfordirol trawiadol fel ystafell ddosbarth awyr agored. Darparwyd y sesiynau gan Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro mewn cydweithrediad ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Fforwm Arfordirol Sir Benfro, a’r daearegwr lleol Sid Howells. Rhoddodd y sesiynau gyfle unigryw i fyfyrwyr gysylltu â natur wrth ddyfnhau eu dealltwriaeth o’r themâu pwysig hyn.
Fel rhan o’r rhaglen, cafodd staff y Parc Cenedlaethol gyfle i dreialu offer symudedd, gan alluogi dau fyfyriwr ag anghenion symudedd ychwanegol i gael profiad llawn o dirwedd ddeinamig a heriol y traeth.
Dywedodd David Jones, un o randdeiliaid Blue Gem Wind: “Roedden ni wrth ein boddau’n cymryd rhan yn rhai o ddiwrnodau gweithgareddau Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, ac roedd yn arbennig o braf gwneud hynny ar y cyd â phartneriaid eraill a chyflwyno ynni adnewyddadwy i blant ysgol yn yr awyr agored. Mae darparu cyllid ar gyfer y prosiect hollbwysig hwn yn rhoi cyfle i ni gefnogi gweithgarwch yn y dyfodol a thynnu sylw at y gyrfaoedd cyffrous y gallai ynni adnewyddadwy eu cynnig i bobl ifanc yn Sir Benfro.”
Caiff prosiect Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro ei gydlynu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac mae’n cael ei gefnogi gan rwydwaith o sefydliadau arbenigol, athrawon ac ymgynghorwyr yr awdurdod lleol. Ei nod yw galluogi dysgwyr i elwa ar brofiadau dysgu o ansawdd uchel yn yr awyr agored, gan annog plant i ymgysylltu’n llawn â’u hamgylchedd lleol a bod yn hyderus ynddo. Mae rhagor o wybodaeth am y bartneriaeth ar gael yn https://pembrokeshireoutdoorschools.co.uk/cy/hafan-2/
Pennawd: Cefnogaeth Blue Gem Wind yn helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf drwy ddysgu yn yr awyr agored yn nhirweddau unigryw Sir Benfro.