Dadorchuddio portread newydd o Santes Non ger y fan lle dywedir iddi roi genedigaeth i Dewi Sant
Mae portread newydd o Santes Non yn cael lle amlwg ar Arfordir Sir Benfro, ger y fan lle dywedir iddi roi genedigaeth i nawddsant Cymru.
Mae’r portread gan yr artist cyfoes, Meinir Mathias, yn portreadu Santes Non yn feichiog ac yn sefyll ar ben clogwyn mewn tywydd stormus. Mae’r portread wedi’i arddangos ar fwrdd gwybodaeth newydd wrth ymyl y llwybr troed sy’n arwain at Gapel Santes Non a’r Ffynnon Sanctaidd yn Nhyddewi.
Yn ôl y chwedl, mae gan y capel a’r ffynnon gysylltiadau cryf â stori geni Dewi Sant, gyda’r ffynnon hyd yn oed yn cael ei hystyried i fod â phwerau i iacháu pobl. Yn y 6ed ganrif cafodd y ddau sant ddylanwad ar ledaeniad Cristnogaeth yn y byd Celtaidd ledled Cymru, Iwerddon, Cernyw a Llydaw.
Dywedodd Meinir:
“Cefais fy ngeni yn Sir Benfro ac rwyf wedi treulio llawer o amser yn y dirwedd hon, felly rhywbeth arbennig iawn yw dod â’r elfen hon i’r gwaith a chael y ddelwedd o Santes Non ar yr arfordir. Mae hefyd yn wych tynnu sylw at fenywod hanesyddol Cymru ac, yn benodol, at fam nawddsant Cymru.”
Mae’r panel yn rhan o amrywiaeth eang o waith i wella mynediad at y safle hanesyddol ac ysbrydol pwysig hwn. Mae hyn yn cynnwys gwella’r llwybr troed i ganiatáu mynediad i bobl anabl yn nes at y ffynnon a’r capel. Mae taith gerdded sain hefyd wedi’i chynhyrchu gan yr awdur a’r darlledwr enwog Horatio Clare sy’n rhoi cyfle i bobl o bob cwr o’r byd brofi straeon, cyfrinachau a synau Santes Non.
Mae’r prosiect hwn wedi cael ei gefnogi gan Gysylltiadau Hynafol, sef prosiect treftadaeth, twristiaeth a chelfyddydol cyffrous sy’n cysylltu Gogledd Sir Benfro a Gogledd Wexford, ac sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru, dan arweiniad Cyngor Sir Penfro, ynghyd â’i bartneriaid sef Cyngor Sir Wexford, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Visit Wexford.
I wrando ar Daith Gerdded Sain Santes Non ewch i’n dudalen Taith Sain Santes Non.
To hear the legend of the birth of St David, ewch i’n dudalen Gwlad y Chwedlau.
I gael rhagor o wybodaeth am Gysylltiadau Hynafol, ewch i www.ancientconnections.org.