Darganfyddwch ryfeddodau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gydag O Lan i Lan 2024
Mae’r gwaith o ddosbarthu prif bapur newydd i ymwelwyr Sir Benfro, O Lan i Lan, wedi cychwyn, yn nodi 42 mlynedd o helpu miliynau o drigolion ac ymwelwyr i ddarganfod mwy am y Parc Cenedlaethol.
Mae’r papur arobryn, a fydd yn cael ei ddosbarthu i dros 550 o fannau ledled Sir Benfro, yn llawn gwybodaeth am sut mae mwynhau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ddiogel ac yn gyfrifol, yn ogystal â chyngor ar sut gall bod yn egnïol yn yr awyr agored helpu i wella eich iechyd a’ch lles.
Dywedodd Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu Awdurdod y Parc, Marie Parkin:
“Mae rhifyn eleni o O Lan i Lan, sy’n gwbl ddwyieithog am y tro cyntaf erioed, yn cynnwys digonedd o syniadau ar gyfer diwrnodau allan cost isel a sut i wneud y gorau o arfordir, traethau a safleoedd hanesyddol Sir Benfro.
“Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am raglenni’r haf yn nhri atyniad ymwelwyr yr Awdurdod, yn ogystal â rhaglen weithgareddau a digwyddiadau prysur sy’n cynnig cyfle unigryw i ddarganfod treftadaeth, bywyd gwyllt, cefn gwlad ac arfordir y Parc Cenedlaethol.”
Mae fersiwn ddigidol hefyd ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/cynllunio-eich-ymweliad/o-lan-i-lan, yn rhoi’r cyfle i bobl gynllunio eu hymweliadau ar-lein cyn teithio i Sir Benfro.