Datganiad o Gyfrifon 2022/23
Mae Rheoliad 10 (1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Cyllid Cyfrifol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro lofnodi a dyddio’r datganiad cyfrifon drafft ac ardystio ei fod yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi, ac incwm a gwariant y corff hwnnw am y flwyddyn honno. Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau erbyn 31 Mai 2023.
Ni fydd y dyddiad hwn yn cael ei gyflawni ac felly, o dan Reoliad 10 (4) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd), rwy’n datgan, fel y Swyddog Cyllid Cyfrifol, na fyddaf yn llofnodi’r datganiad o gyfrifon ar gyfer 2022-23 erbyn 31 Mai 2023.
Mae’r oedi hwn oherwydd colli staff allweddol a gwybodaeth chorfforaethol. Yr ydym wedi rhoi trefniadau interim a phersonél ar waith, ochr yn ochr ag amserlen archwilio ddiweddarach gan Archwilio Cymru eleni. Bwriadaf lofnodi datganiad drafft o gyfrifon 2022-23 erbyn 31 Gorffennaf 2023.
Richard Griffiths
Swyddog Adran 151