Dewch i ailddarganfod Geiriau Diflanedig natur a diwylliant yn Oriel y Parc o 2 Gorffennaf

Cyhoeddwyd : 23/06/2023

Drwy bartneriaeth unigryw rhwng Amgueddfa Cymru a dau Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, bydd y llyfr poblogaidd Geiriau Diflanedig yn dod yn fyw yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi o Dydd Sul 2 Gorffennaf.

Mae Geiriau Diflanedig yn archwilio’r berthynas rhwng iaith a’r byd, a phŵer natur i ddeffro’r dychymyg. Bydd yr arddangosfa deithiol, sy’n cael ei threfnu gan Compton Verney, gyda Hamish Hamilton a Penguin Books, yn casglu ynghyd, am y tro cyntaf erioed, gwaith celf gwreiddiol Jackie Morris ochr yn ochr â cherddi Cymraeg wedi’u hysgrifennu gan Mererid Hopwood a cherddi Saesneg gan Robert Macfarlane.

Mae’r llyfr poblogaidd Geiriau Diflanedig yn defnyddio swynganeuon cyffrous a darluniau trawiadol i ail-gyflwyno wynebau diflanedig natur i’n geirfa ac, yn ei dro, ein hysbrydoli i ymuno â’r frwydr i wrthdroi eu cyflwr. Cafodd y cyhoeddiad Cymraeg, Geiriau Diflanedig, ei gyhoeddi gan Graffeg yn 2019.

Yn Oriel y Parc yn Nhyddewi, bydd gwrthrychau o gasgliadau hanes naturiol Amgueddfa Cymru hefyd yn cael eu defnyddio i dynnu sylw at faint o fioamrywiaeth sydd wedi’i cholli a bydd yn esbonio’r gwaith sy’n cael ei wneud i geisio atal y dirywiad hwn.

Bydd y cydweithrediad rhwng Amgueddfa Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn arddangos geiriau a dyfrlliwiau’r llyfr yn yr Ysgwrn yng Ngwynedd hefyd.

Illustration of an adder drawn by artist Jackie MOrris

Adder © Jackie Morris

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig yn Oriel y Parc a’r Ysgwrn i annog rhagor o bobl i ddysgu mwy am Geiriau Diflanedig a defnyddio’r swynganeuon i’w hatgoffa o’u hatgofion hudolus o fyd natur.

Bydd Geiriau Diflanedig yn cael ei harddangos yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi o ddydd Sul 2 Gorffennaf 2023 hyd at wanwyn 2024. I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa hon, ewch i dudalen arddangsofa Geiriau Diflanedig.

Bydd Geiriau Diflanedig yn cael ei harddangos yn yr Ysgwrn, Trawsfynydd, o ddydd Sul 25 Mehefin hyd at wanwyn 2024. I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa hon, ewch i wefan Yr Ysgwrn (agor mewn ffenest newydd).

I gael rhagor o wybodaeth am y llyfr The Lost Words, ewch i www.thelostwords.org (agor mewn ffenest newydd).