Digwyddiad cymunedol ar ddiwedd yr arddangosfa boblogaidd
I gau pen y mwdwl ar arddangosfa yn Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol, cynhelir digwyddiad cyffrous gyda Jackie Morris, y darlunydd enwog, a’r prif-fardd Mererid Hopwood.
Mae’r arddangosfa Geiriau Diflanedig – The Lost Words wedi bod yna ers mis Mehefin 2023, ac mae wedi ysgogi ymwelwyr o bob oed a chefndir gyda cherddi sy’n procio’r meddwl a darluniau bywiog sy’n edrych ar y berthynas rhwng iaith a’r byd byw.
Yn seiliedig ar y llyfr llwyddiannus gan Robert Macfarlane a Jackie Morris, mae’r arddangosfa deithiol, a gafodd ei threfnu gan Compton Verney, gyda Hamish Hamilton a Penguin Books, wedi dod â gwaith celf gwreiddiol Jackie Morris, a cherddi Cymraeg wedi’u hysgrifennu gan Mererid Hopwood a cherddi Saesneg gan Robert Macfarlane ynghyd am y tro cyntaf erioed.
Rydyn ni bellach yn agosáu at wythnosau olaf yr arddangosfa, ac mae’r digwyddiad ffarwel yn cynnig cyfle unigryw i ymgysylltu â’r ddau berson sydd wedi creu’r arddangosfa wych hon, ac i gael cipolwg ar y prosesau creadigol a ddaeth â’r gwaith yn fyw.
Bydd cyfle hefyd i glywed am brosiect diweddaraf Jackie, gyda rhagflas o’i gwaith sydd ar y gweill ar gyfer Adar Diflanedig – The Lost Birds.
Dywedodd Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc:
“Mae llwyddiant yr arddangosfa Geiriau Diflanedig – The Lost Words wedi bod yn wirioneddol ryfeddol, ac mae wedi ysgogi cynulleidfaoedd o bob oed a chefndir.
“Mae wedi bod yn wych cael bod yn rhan o’r profiad hwn, sy’n ceisio ailgyflwyno wynebau diflanedig byd natur i’n geirfa. Gobeithio bod llawer o bobl wedi cael eu hysbrydoli i droi cornel yn eu bywyd ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eu croesawu wrth i ni ffarwelio â’r arddangosfa gofiadwy hon.”
Bydd y digwyddiad i ffarwelio ag arddangosfa Geiriau Diflanedig – The Lost Words yn cael ei chynnal yn Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol, ddydd Sadwrn 25 Mai, rhwng 2pm a 3.30pm. Er bod y digwyddiad yn rhad ac am ddim, rhaid archebu ymlaen llaw yn www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau oherwydd prinder lle yn y lleoliad.
Mae rhagor o wybodaeth am arddangosfeydd a digwyddiadau yn Oriel y Parc ar gael yn www.orielyparc.co.uk.