Digwyddiad Plant sy’n Rheoli’r Castell yn dychwelyd i Gaeriw
Roedd Castell Caeriw yn arfer bod yn gadarnle i freninwneuthurwyr, marchogion y deyrnas a thywysogesau hardd, ac mae’n edrych ymlaen at weld ei ddigwyddiad blynyddol poblogaidd yn dychwelyd y mis hwn pan gaiff ei feddiannu gan blant.
Mae’r digwyddiad Plant sy’n Rheoli’r Castell ddydd Iau 25 Gorffennaf yn addo diwrnod o hwyl ac adloniant i bob oed yn Atyniad Ymwelwyr y Flwyddyn Sir Benfro – a’r cyfle perffaith i blant roi diwrnod llawn hwyl i oedolion sy’n ymddwyn yn dda.
Eleni, mae Castell Caeriw yn falch o gyflwyno Môr-ladron Gwych, tîm llawn dychymyg ac egnïol o arbenigwyr chwarae, diddanwyr ac actorion, a fydd yn ymuno â’r digwyddiad am y tro cyntaf erioed gyda chasgliad o gemau gwallgof, disgos, anhrefn rheoledig a naws yr ŵyl. Byddan nhw hefyd yn dod â’u trysorflychau sy’n llawn teganau, rhwydi a pharasiwtiau, ac yn diddanu gwesteion drwy wisgo i fyny a chreu parthau i guddio, archwilio, neidio a throi.
Mae’r sesiynau am ddim sydd wedi’u trefnu drwy gydol y dydd yn cynnwys Wake up and Wiggle, sesiwn ddawns fywiog am 10:30am i ddechrau’r diwrnod gydag ergyd; Morwynion a Dreigiau am 11am ac 1pm, lle gall y rhai sy’n cymryd rhan ddod yn archwilwyr bywyd gwyllt gyda’r Parcmon Angharad; Chwarae Parasiwt am hanner dydd i gael hwyl llawn egni; Môr-ladron Ahoy! am 2pm sy’n cynnwys helyntion môr-ladron gyda’r Capten Jan Sparrow; a Hela’r Allwedd am 3pm, sy’n cynnig helfa drysor gyffrous
Mae gweithgareddau eraill sy’n cael eu cynnal yn rhad ac am ddim yn ystod y dydd ac sy’n sicr o ddiddanu holl aelodau’r teulu yn cynnwys Crefftau Creaduriaid, Cychod Model ar y Pwll Melin, Rhowch gynnig ar Archeoleg, Chwarae Brwnt, Swigod Anferth, Teganau Traddodiadol a Gemau Carnifal.
Hefyd, bydd amrywiaeth o weithgareddau difyr ar gael am ffi fach ychwanegol, fel Rhowch gynnig ar Saethyddiaeth, Sesiynau Sw Anwesu, Paentio wynebau (bore yn unig), Gweithdai Gwneud Printiau Botanegol a Lliwio Botanegol, reidiau ffair hwyl, a chastell neidio.
Sylwch fod yn rhaid archebu eich lle ar gyfer sesiynau archwilio bywyd gwyllt Morwynion a Dreigiau gyda’r Parcmon Angharad. Gallwch archebu eich lle yn www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw:
“Rydyn ni’n awyddus i groesawu ein hanturwyr ifanc (a’u hoedolion!) yn ôl i ddigwyddiad Plant sy’n Rheoli’r Castell, lle gallan nhw ymgolli mewn diwrnod llawn o weithgareddau canoloesol mewn lleoliad trawiadol.
“Rydyn ni wir yn edrych ymlaen at gael croesawu’r Môr-ladron Gwych yn ogystal ag ymddangosiad arbennig gan fochyn sy’n seren y sgrin deledu – mae’n siŵr o fod yn llawer o hwyl!”
Bydd Ystafell De Nest ar agor rhwng 10.30am a 4pm ar y diwrnod, gan weini amrywiaeth flasus o brydau ar gyfer cinio, cacennau a lluniaeth.
Bydd Plant sy’n Rheoli’r Castell yn cael ei gynnal yng Nghastell Caeriw rhwng 10am a 3pm ddydd Iau 25 Gorffennaf. Pris mynediad arferol – bydd angen arian parod i dalu ffi fechan am gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau. Bydd mynediad am ddim yn cael ei ddarparu i blant o dan bedair oed. Mae rhagor o fanylion ar gael yn www.castellcaeriw.com.
I gael gwybod am ddigwyddiadau eraill ledled y Parc Cenedlaethol yr haf hwn, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.