Disgyblion lleol yn cryfhau eu gwreiddiau gyda gwersi yn yr awyr agored ar gynhyrchu bwyd
Mae disgyblion yn ardal Aberdaugleddau wedi bod yn dathlu cynnyrch lleol ac yn dysgu am sut mae’n cael ei gynhyrchu fel rhan o’r prosiect Gwreiddiau/Roots, sy’n cael ei ariannu gan South Hook LNG ac Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac yn cael ei ddarparu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Sefydlwyd y prosiect Gwreiddiau/Roots ddechrau’r flwyddyn er mwyn gwella dealltwriaeth plant o gynnyrch naturiol a’r rhwydweithiau bwyd yn eu cymunedau eu hunain. Gyda’r bwriad o gryfhau’r cysylltiadau rhwng ysgolion a chynhyrchwyr bwyd lleol, mae’r sesiynau yn yr awyr agored wedi bod yn boblogaidd iawn yn yr amgylchedd dysgu sydd ohoni ar ôl y cyfnod clo.
Dywedodd Tom Bean, Parcmon Addysg y Parc Cenedlaethol:
“Er bod ysgolion a disgyblion ledled y wlad wedi wynebu heriau sylweddol eleni, mae wedi bod yn hyfryd gweld sut maen nhw wedi croesawu ffyrdd newydd o ddysgu a’r gwersi y gall yr awyr agored eu haddysgu.
“Ers mis Medi, mae nifer o ysgolion cynradd wedi cymryd rhan yn y rhaglen hon, yn cynnwys Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston, Ysgol Gymunedol Neyland, Ysgol Gatholig Sant Ffransis ac Ysgol y Glannau.
“Tyfodd disgyblion yn Ysgol Sant Ffransis eu gwenith eu hunain, a gafodd ei falu’n flawd gan ddefnyddio melin law o Felin Lanw Caeriw. Ymhlith y gweithgareddau eraill a wnaed mae plannu, tyfu, pigo afalau, ymweld â ffermydd, astudio cynefinoedd a thrawsnewid ardaloedd yn yr awyr agored.”
Mae gwaith ar y gweill i greu ardaloedd tyfu ac ardal dysgu yn yr awyr agored yn Ysgol Gelliswick ddiwedd y flwyddyn.
“Rydyn ni mor falch o gefnogi’r prosiect yma a gwaith Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i roi ffordd i blant gysylltu â’n hamgylchedd lleol a’r holl gynhyrchwyr sy’n cefnogi rhwydweithiau bwyd yn ein Sir”,
meddai Mariam Dalziel, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus South Hook LNG.
I ddysgu mwy am y rhaglenni dysgu yn yr awyr agored sydd ar gael i ysgolion ewch i dudalen i ysgolion ac addysgwyr Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen gofrestredig a sefydlwyd i helpu i ofalu am y Parc Cenedlaethol a’i ddiogelu. I gael rhagor o wybodaeth am yr elusen a’r gwaith mae’n ei gefnogi ewch i wefan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.