Diwrnod Afalau ym Mherllan Sain Ffraid

Posted On : 13/09/2024

Dydd Sul 29 Medi, 11am – 3pm – MYNEDIAD AM DDIM A PHARCIO AM DDIM!

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn falch o gyhoeddi y bydd perllan dreftadaeth Sain Ffaid ar agor ar gyfer ein dathliad blynyddol o ‘Afalau a Berllannau Hynafol’ ddydd Sul 29 Medi.

Mae hwn yn gyfle unigryw i ymweld â’r berllan, nad yw fel arfer ar agor i’r cyhoedd. Bydd digon yn digwydd gan gynnwys gweithgareddau crefft plant, gwasgu afalau, taith hanes hunan-dywys, llwybr afalau a mwy. Bydd ein Parcmyn wrth law i siarad am y berllan dreftadaeth wych hon a’r coed afalau hynafol a geir yma. Efallai yr hoffech chi gael taith hamddenol o amgylch y berllan a mwynhau’r awyrgylch neu ddod â ryg a chael picnic yn yr ardd furiog.

Rydym hefyd yn falch y bydd aelodau’r WI yn ymuno â ni, gyda stondin gacennau sy’n codi arian ar gyfer plannu coed mewn ysgol leol. Hefyd bydd Cyfeillion y Parc Cenedlaethol yn cynnal diwrnod agored yn y tŷ pwmp sydd wedi’i adfer yn Sain Ffraid.

Diwrnod allan gwych i bawb!

A flyer showing the details for the upcoming Apple Day event