Dwy arddangosfa yn ceisio ailgysylltu pobl â Geiriau Diflanedig natur a diwylliant
Drwy bartneriaeth unigryw rhwng Amgueddfa Cymru a dau Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, bydd y llyfr poblogaidd Geiriau Diflanedig yn dod yn fyw mewn dwy arddangosfa ddwyieithog am y tro cyntaf yr haf hwn.
Mae Geiriau Diflanedig yn archwilio’r berthynas rhwng iaith a’r byd, a phŵer natur i ddeffro’r dychymyg. Bydd yr arddangosfa deithiol, sy’n cael ei threfnu gan Compton Verney, gyda Hamish Hamilton a Penguin Books, yn casglu ynghyd, am y tro cyntaf erioed, gwaith celf gwreiddiol Jackie Morris ochr yn ochr â cherddi Cymraeg wedi’u hysgrifennu gan Mererid Hopwood a cherddi Saesneg gan Robert Macfarlane.
Mae’r llyfr poblogaidd Geiriau Diflanedig yn defnyddio swynganeuon cyffrous a darluniau trawiadol i ail-gyflwyno wynebau diflanedig natur i’n geirfa ac, yn ei dro, ein hysbrydoli i ymuno â’r frwydr i wrthdroi eu cyflwr. Cafodd y cyhoeddiad Cymraeg, Geiriau Diflanedig, ei gyhoeddi gan Graffeg yn 2019.
Bydd y cydweithrediad rhwng Amgueddfa Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn arddangos geiriau a dyfrlliwiau’r llyfr yn yr Ysgwrn yng Ngwynedd o ddydd Sul 25 Mehefin 2023 ymlaen ac yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc Sir Benfro o ddydd Sul 2 Gorffennaf 2023 ymlaen.
Yn Oriel y Parc yn Nhyddewi, bydd gwrthrychau o gasgliadau hanes naturiol Amgueddfa Cymru hefyd yn cael eu defnyddio i dynnu sylw at faint o fioamrywiaeth sydd wedi’i cholli a bydd yn esbonio’r gwaith sy’n cael ei wneud i geisio atal y dirywiad hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:
“Mae Geiriau Diflanedig eisoes wedi ailgyflwyno natur i iaith a bywyd llawer o bobl ers iddo gael ei ryddhau, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yr arddangosfa hon yn helpu i ategu galw’r gwaith brwd hwn ymhellach fyth.
“Mae’r cydweithrediad unigryw hwn yn casglu ynghyd tri sefydliad â nodau ac amcanion cyffredin, i hyrwyddo natur, diwylliant a threftadaeth a thynnu sylw at y problemau sy’n effeithio ar yr elfennau pwysig hyn o’n bywydau bob dydd.
“Bydd hefyd yn rhoi cipolwg i bobl ar yr ymdrechion sy’n cael eu gwneud i fynd i’r afael â’r bygythiadau y mae natur a’r iaith Gymraeg yn eu hwynebu, yn ogystal â’r camau y gall pobl eu cymryd i fynd i’r afael â’r problemau hyn.”
Dywedodd Jonathan Cawley, Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
“Mae’r Ysgwrn yn gartref i lawer o rywogaethau y mae Geiriau Diflanedig/The Lost Words yn sôn amdanyn nhw, ac mae’n fraint enfawr cael dod â’r arddangosfa hon o eiriau coll i gartref bardd coll Cymru, a oedd yn adnabyddus am ei gerddi dan ysbrydoliaeth natur. Gan gysylltu harddwch rhywogaethau a’u henwau hudolus, mae Geiriau Diflanedig / Lost Words wastad yn eich ysbrydoli ac mae ei allu i ddysgu pobl ifanc am bwysigrwydd adfer natur a mabwysiadu ein treftadaeth ddiwylliannol a’r iaith Gymraeg yn Eryri yn bwysig iawn.
Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig yn Oriel y Parc a’r Ysgwrn i annog rhagor o bobl i ddysgu mwy am Geiriau Diflanedig a defnyddio’r swynganeuon i’w hatgoffa o’u hatgofion hudolus o fyd natur.
Dywedodd Nia Williams, Cyfarwyddwr dysgu a Rhaglenni Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru:
“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Oriel y Parc a’r Ysgwrn i gyflwyno’r arddangosfa hon i gymunedau ar draws gogledd a gorllewin Cymru.
“Ar ôl cyhoeddi Geiriau Diflanedig, dyma’r amser perffaith yma yng Nghymru i ddathlu cerddi Cymraeg Mererid Hopwood ochr yn ochr â’r darluniau hyfryd gan Jackie Morris. Rydyn ni’n falch o fod yn cyflwyno’r arddangosfa hon yn Gymraeg am y tro cyntaf.”
Dywedodd Abby Viner, Cyfarwyddwr Rhaglenni Creadigol, Compton Verney:
“Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru i gyflwyno The Lost Words yng Nghymru am y tro cyntaf, ac mae wedi bod yn fraint gweithio gyda’r ddau leoliad hyn a fydd yn dangos y gwaith, gydag Amgueddfa Cymru yn ei chydlynu. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr arddangosfa yn y lleoliadau gwych hyn.”
Bydd Geiriau Diflanedig yn cael ei harddangos yn yr Ysgwrn, Trawsfynydd, o ddydd Sul 25 Mehefin hyd at wanwyn 2024. I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa hon, ewch i wefan Yr Ysgwrn (agor mewn ffenestr newydd).
Bydd Geiriau Diflanedig yn cael ei harddangos yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi o ddydd Sul 2 Gorffennaf 2023 hyd at wanwyn 2024. I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa hon, ewch i wefan Oriel y Parc.
I gael rhagor o wybodaeth am y llyfr The Lost Words, sewch i wefan The Lost Words (agor mewn ffenestr newydd).