Enillydd cystadleuaeth i enwi trên yn cael ymweliad arbennig â Chastell Caeriw
Mae bachgen ysgol o Sir Gâr a’i deulu wedi mwynhau ymweliad arbennig â Chastell Caeriw yn ystod gwyliau’r Pasg, diolch i’w lwyddiant mewn cystadleuaeth genedlaethol i enwi trên.
Cymerodd Rhys Protheroe, disgybl Blwyddyn 5 yn Ysgol Gynradd Tre Ioan yng Nghaerfyrddin, ran yng nghystadleuaeth Trafnidiaeth Cymru, Y Daith Drên Odidog,
a oedd yn rhoi cyfle i ddisgyblion ysgolion cynradd ddod yn rhan o hanes y rheilffyrdd drwy awgrymu enwau ar gyfer fflyd o drenau Dosbarth 197 newydd.
Roedd yn rhaid i’r enwau fod yn seiliedig ar le go iawn, tirnod, safle hanesyddol neu ffigwr chwedlonol a oedd yn gysylltiedig â lleoedd o fewn rhwydwaith Cymru a’r Gororau, a daeth awgrym Rhys, sef Castell Caeriw Cyflym, i’r brig.
Dywedodd Rheolwr Castell Caeriw, Daisy Hughes:
“Roedden ni wrth ein bodd o glywed bod Castell Caeriw wedi creu’r fath argraff ar Rhys fel ei fod eisiau enwi trên ar ôl y safle. Mae cystadleuaeth Trafnidiaeth Cymru, Y Daith Drên Odidog, wedi bod yn ffordd wych o annog pobl ifanc i feddwl am hanes gyfoethog a llên gwerin Cymru – a’r llefydd sy’n agos at eu calonnau.
Bu’n bleser gwahodd Rhys a’i deulu i Gaeriw ac i gyflwyno bag o bethau da iddo, a gobeithiwn y bydd enw’r trên newydd yn ysbrydoli llawer mwy o deithwyr i ymweld â’r Castell ac i ddarganfod ei orffennol diddorol.”
Mae’r Castell Caeriw Cyflym yn rhan o fflyd o drenau Dosbarth 197 newydd, sy’n cynnig mwy o le ac yn fwy cysurus, a bydd yn rhan hollbwysig o wasanaethau prif linell Trafnidiaeth Cymru.
Mae Castell a Melin Heli Caeriw, enillydd Atyniad Ymwelwyr y Flwyddyn y llynedd yng Ngwobrau Croeso Sir Benfro, yn cael ei redeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae ar agor bob dydd rhwng 10am a 4.30pm (mynediad olaf am 4pm) a bydd yn cynnal rhaglen lawn o ddigwyddiadau drwy gydol yr haf. Am fanylion pellach ewch i www.castellcaeriw.com.