Ethol cynghorydd sir Martletwy fel Cadeirydd Awdurdod y Parc wrth i Aelodau newydd ddod i’r cyfarfod cyntaf
Cafodd y Cynghorydd Di Clements ei hethol fel Cadeirydd newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 15 Mehefin.
Mae’r Cyng Clements, a wasanaethodd fel Dirprwy Gadeirydd o 2019, yn ymgymryd â’r rôl gan y Cynghorydd Paul Harries, a fu’n Gadeirydd am y tair blynedd diwethaf.
Y Dirprwy Gadeirydd newydd yw Dr Rachel Heath-Davies sydd wedi bod yn Aelod o’r Awdurdod a benodwyd gan Lywodraeth Cymru ers 2017.
Dywedodd y Cyng. Clements:
“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy ethol yn Gadeirydd yr Awdurdod a byddaf yn defnyddio fy nghefndir amrywiol fel preswylydd, cynghorydd sir, ffermwr, perchennog busnes twristiaeth a gwirfoddolwr cymunedol i helpu i hyrwyddo gwaith Awdurdod y Parc a chynnal dibenion y Parc Cenedlaethol.
“Hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Harries am ei holl waith caled dros y blynyddoedd diwethaf. Mae gwasanaethu fel Dirprwy Gadeirydd ochr yn ochr ag ef wedi rhoi profiad amhrisiadwy i mi y byddaf yn siŵr o fanteisio arno yn ystod fy nghyfnod yn y Gadair.
“Ar ôl llywio’n llwyddiannus drwy’r blynyddoedd cythryblus diwethaf, rwy’n hyderus bod gan y Parc Cenedlaethol a’r Awdurdod ddyfodol disglair o’n blaenau, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda fy nghyd-aelodau a’m staff i gyflawni’r blaenoriaethau newydd o ran cadwraeth, yr hinsawdd, cysylltiadau a chymunedau.”
Mae’r Cyng Clements wedi byw ac wedi gweithio ar fferm laeth deuluol ers dros 30 mlynedd, sy’n cynnwys hen adeiladau fferm sydd wedi cael eu haddasu i ddarparu llety i ymwelwyr. Cyn hynny, bu’n Aelod o’r Cyngor First Milk ac yn gweithio i’r AS lleol, Simon Hart.
Mae’n fam i ddau o blant sy’n oedolion, ac mae hi wedi bod yn Aelod o Awdurdod y Parc Cenedlaethol ers iddi gael ei hethol i Gyngor Sir Benfro yn 2017. Mae’r Cyng Clements hefyd yn Aelod o Fwrdd ‘Ymweld â Sir Benfro’ (Visit Pembrokeshir).
Aelodau newydd a ddaeth i gyfarfod Awdurdod Parc Cenedlaethol am y tro cyntaf ar ôl cael eu penodi’n ddiweddar gan Gyngor Sir Penfro oedd: Y Cyng. Rhys Jordan, y Cyng. Chris Williams, Y Cyng. Sam Skyrme-Blackhall, Y Cyng. Steve Alderman a’r Cynghorydd Michele Higgins. Mae’r Cynghorydd Simon Hancock yn dychwelyd i’r Awdurdod, ar ôl bod yn Gadeirydd yn ystod ei gyfnod blaenorol fel Aelod.