Grwpiau cerdded yn dathlu pen-blwydd y Parc Cenedlaethol yn 70 oed gyda thaith gerdded a the parti mewn coetir gwyllt
Cafodd ymwelwyr gryn dipyn o sioc wrth ymweld â Choedwig Canaston yn ddiweddar, wrth i’r coetir hynafol gynnal y daith gerdded iechyd a lles fwyaf a welodd Sir Benfro erioed, gyda dros 60 o bobl yn cymryd rhan.
Trefnwyd y digwyddiad i ddathlu pen-blwydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 70 oed ac roedd MIND Sir Benfro, Value Independence, VC Gallery a Grŵp Cerdded er Budd Lles Arberth yn bresennol.
Mae’r Prosiect Walkability, sy’n cael ei redeg gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol, bellach wedi bod ar waith ers dros ddegawd, gan helpu pobl o bob gallu sy’n byw yn Sir Benfro i fwynhau’r arfordir a’r cefn gwlad godidog o’u cwmpas.
Yn ystod y digwyddiad, dysgodd y cyfranogwyr sut mae chwilota am fwyd yn gyfrifol a sut mae adnabod planhigion coetiroedd brodorol y gellir eu defnyddio i wneud te. Daeth y profiad synhwyraidd hwn i ben drwy roi’r cyfle iddynt flasu gwahanol flasau o de, fel Chwyn pinafal/Camri gwyllt, Palalwyfen a Helyglys Hardd, a elwir fel arall yn Ivan chai.
Roed gan lawer o’r rhai a oedd yn bresennol ddiddordeb mawr yn y byd naturiol ac roeddent wrth eu boddau yn darganfod mwy amdano drostynt eu hunain.
Dywedodd Richard, a ymunodd â’r digwyddiad ar y diwrnod ac a fu’n cymryd rhan yn y cynllun Walkability: “Mae llawer o deithiau cerdded hygyrch a phleserus i’w cael yn Canaston. Rydw i’n mwynhau gwylio adar, felly mae hwn yn lle gwych i ddod.”
Ychwanegodd Emma, sydd eisoes wedi bod yn ymwneud ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol fel Parcmon Ifanc: “Y peth gorau am y teithiau cerdded hyn yw gallu mynd allan a chwrdd â phobl newydd yn yr awyr iach. Mae’n dda gweld llwybrau newydd yn cael eu hadeiladu gyda defnyddwyr cadeiriau olwyn mewn golwg, ac mae’n gwneud gwahaniaeth mawr.”
Fodd bynnag, mae mynd allan a threulio amser yng nghanol byd natur wedi golygu llawer iawn mwy nag awyr iach a chyfleoedd i wylio bywyd gwyllt i rai o gyfranogwyr Walkability, gan arwain at welliannau dramatig yn eu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol.
Dywedodd Sam Evans, Cydlynydd y Prosiect Walkability: “Mae pawb yn gwybod bod treulio amser yng nghanol y byd natur yn gwneud gwyrthiau i’n hiechyd a’n lles, a braint oedd gweld yr effaith mae’r teithiau cerdded hyn wedi’i chael ar y rheini sydd wedi bod yn rhan o’r cynllun, a’u staff gofal ymroddedig, sydd wedi gweithio mor galed yn ystod y pandemig i gadw gwasanaethau i fynd – gan aberthau cymaint yn y broses. Rwy’n edmygu’r ffordd maen nhw wedi ymddwyn yn ystod y cyfnod anodd hwn ac mae wedi bod yn fraint gallu rhoi rhywbeth yn ôl.
“Roedd y Te Parti yn ddathliad ym mhob ystyr o’r gair – yn llawn chwerthin, canu a’r pleser pur o allu cael mynediad at y mannau gwyllt hardd sydd gan y Parc Cenedlaethol i’w cynnig.
“Fodd bynnag, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ein gwirfoddolwyr gwych, a byddwn yn annog unrhyw un sydd ag amser rhydd ac sy’n dymuno gwneud gwahaniaeth i gysylltu â ni.”
Daeth y Te Parti i ben gyda phawb yn cyd-ganu ambell i gân adnabyddus yn yr awyr agored, gan gynnwys Rockin’ All Over the World, Delilah a Daydream Believer. Er nad oedd bagiau rhoddion ar gael, rhoddwyd taflenni lliwgar a luniwyd gan Sam Evans a Vicky Sewell, Parcmon Awdurdod y Parc Cenedlaethol, i bawb oedd yn bresennol. Roedd y taflenni hyn yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y te, gan gynnwys cyfarwyddiadau ar sut y gallent fynd ati i wneud eu te eu hunain.
I ddysgu mwy am grwpiau Walkability ledled y sir, ewch i pembrokeshirecoast.wales/walkability, neu cysylltwch â Sam Evans drwy ffonio 01646 624880 neu drwy anfon e-bost i same@pembrokeshirecoast.org.uk.
Mae rhagor o wybodaeth am yr amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael yn https://www.arfordirpenfro.cymru/cymryd-rhan/gwirfoddoli/.