Gweledigaeth Cynghorydd yn dwyn ffrwyth ar ddiwedd prosiect plannu coed i ddathlu 70 mlynedd

Posted On : 03/05/2024

Daeth prosiect plannu coed, i ddathlu 70 mlynedd o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i ben ddiwedd y mis diwethaf. Cafodd 1,500 a mwy o goed eu plannu mewn gerddi a mannau cymunedol o amgylch y Parc Cenedlaethol.

Syniad y diweddar Gynghorydd Reg Owens oedd y prosiect, sef aelod hirsefydlog ac uchel ei barch o Awdurdod y Parc. Ei nod oedd ceisio plannu 70 o goed ym mhob un o gymunedau’r Parc Cenedlaethol i ddathlu’r garreg filltir hon.

Ym mis Chwefror, cynhaliwyd diwrnod plannu coed arbennig ar gyfer cymunedau Nolton a’r Garn, a gwelwyd criw o wirfoddolwyr lleol yn dod allan i helpu i blannu 70 o sbrigau gwrychoedd gwahanol yn y bylchau o amgylch cae chwarae Neuadd Fictoria. Er gwaethaf y niwl, roedd yr ysbryd cymunedol i’w weld yn glir, gyda dau o’r gwirfoddolwyr ieuengaf yn gwneud gwaith rhagorol yn helpu i gloddio tyllau ar gyfer pedair coeden afalau, cyn eu clymu a rhoi llewys amdanynt.

 

Residents of Nolton and Roch communities, standing in a field next to newly planted trees.

Ym mis Ebrill, cynhaliwyd digwyddiad cymunedol i blannu a dosbarthu coed yn Neuadd Bentref Tremarchog. Ar ôl plannu tair coeden afalau ar y boncen y tu ôl i’r neuadd, cafodd y bobl leol y cyfle i ddewis o blith pedair rhywogaeth o goeden i fynd adref gyda nhw. Daeth y digwyddiad i ben gyda phaned o de, cacen a thrafodaethau gwych am goed a’r Parc Cenedlaethol.

Dywedodd Megan Pratt, Parcmon Awdurdod y Parc a fu’n arwain y ddau brosiect plannu coed yn ddiweddar:

“Mae’r fenter plannu coed wedi trawsnewid llawer o fannau cymunedol, gan gynnwys meysydd chwaraeon, mannau chwarae, gerddi cymunedol, a hyd yn oed mynwentydd, gan gyfoethogi gwead ein cymunedau. Hefyd, rhoddwyd rhywogaethau cynhenid i’r trigolion i fynd adref gyda nhw, gan gynnwys coed afalau ifanc o berllan hanesyddol yr Awdurdod yn Sain Ffraid, a fydd yn helpu i sicrhau dyfodol y mathau gwahanol o afalau treftadaeth anarferol sy’n tyfu yno.

“Wrth i’r 1,500 o goed wreiddio, rydyn ni’n gobeithio y byddant yn dyst i weledigaeth y Cynghorydd Owens, a hefyd yn cyfrannu at gyfoeth naturiol tirwedd y Parc Cenedlaethol dros y 70 mlynedd nesaf a’r tu hwnt.”

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli ymarferol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i ewch i www.arfordirpenfro.cymru/cymryd-rhan/gwirfoddoli.

Ranger Meg talking about tree whips to a small group of people at St Nicholas Village Hall