Gwnewch newid cadarnhaol yn yr awyr agored yn Sir Benfro gyda Gwreiddiau i Adferiad
Mae pobl yn cael eu gwahodd i ymuno â phrosiect newydd sy’n ceisio gwella iechyd a llesiant drwy waith cadwraeth ymarferol yn yr awyr agored ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac o’i gwmpas.
Mae diwrnod blasu yn cael ei gynnal ddydd Gwener 8 Ebrill i gyflwyno pobl i’r prosiect Gwreiddiau i Adferiad, sy’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth gan Mind Sir Benfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyda chefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru.
Gall y rheini sy’n mwynhau’r profiad wedyn ymuno â grŵp gwirfoddoli a fydd yn cwrdd bob wythnos i wneud newidiadau cadarnhaol i’w hiechyd meddwl a chorfforol, wrth iddyn nhw helpu i wella rhai lleoedd anhygoel yn Sir Benfro.
Dywedodd Tom Iggleden, Swyddog Gwirfoddoli Gwreiddiau i Adferiad,
“Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi golygu bod pobl yn wynebu hyd yn oed mwy o rwystrau i wella eu hiechyd a’u llesiant, felly rydyn ni’n gobeithio helpu pobl i wneud hynny drwy ddarparu profiadau cadarnhaol mewn llefydd anhygoel.
“Rydyn ni’n gobeithio dod o hyd i bobl nad oes ots ganddyn nhw fynd i’r afael ag amrywiaeth o dasgau ymarferol.
“Bydd y diwrnod blasu yn rhoi enghraifft o’r math o dasgau bydd y grŵp yn eu gwneud a gobeithio byddan nhw’n eu hannog i wirfoddoli gyda Gwreiddiau i Adferiad yn rheolaidd.”
Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol a bydd cludiant o’r pwynt cwrdd a’r offer i gyd yn cael ei ddarparu. Bydd angen i bobl ddod â’u bwyd a’u diod eu hunain a bod yn barod i fod yn yr awyr agored am ychydig o oriau.
Bydd angen i’r rheini sy’n dod i’r diwrnod blasu gofrestru eu diddordeb ymlaen llaw a gallu cwrdd yn Hyb Gwella o’r Gwreiddiau at Adferiad y tu ôl i Mind Sir Benfro yn Hwlffordd am 10am ddydd Gwener 8 Ebrill.
I archebu eich lle ar y diwrnod blasu, ewch i dudalen y diwrnod flasu.
I gael rhagor o wybodaeth am y diwrnod blasu neu am brosiect Gwreiddiau i Adferiad, cysylltwch â Tom Iggleden drwy anfon neges i tomi@pembrokeshirecoast.org.uk neu drwy ffonio 07866 771190.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Gwreiddiau i Adferiad, a ffyrdd eraill o gymryd rhan, gan gynnwys ein prosiect gwirfoddoli gyda chymorth, Llwybrau, ewch i’n tudalen gwirfoddoli .