Gŵyl ceir clasurol yn dychwelyd i Gastell Caeriw dros Ŵyl y Banc
Bydd un o uchafbwyntiau calendr Sir Benfro yn dychwelyd dros Ŵyl y Banc, wrth i Gastell Caeriw baratoi i groesawu rhai o’r hen geir, beiciau modur a cherbydau milwrol clasurol gorau o bob cwr o Dde Cymru.
Bydd Sioe Geir Castell Caeriw yn cael ei chynnal ddydd Llun 6 Mai, gyda digon o adloniant i’r teulu cyfan, gan gynnwys cerddoriaeth drwy’r dydd gan y band gwerin lleol ‘Razor Bill’, ac amrywiaeth o reidiau ffair glasurol a gemau gan gwmni Pembrokeshire Attractions.
Am gost ychwanegol o £2, bydd ymwelwyr iau yn gallu cymryd rhan hefyd mewn Llwybr Adar Arbennig o amgylch y Castell
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw:
“Rydyn ni’n falch iawn o gynnal y Sioe Geir boblogaidd yng Nghaeriw am flwyddyn arall. Mae’n gyfle gwych i bobl sy’n ymddiddori a theuluoedd fel ei gilydd i edmygu harddwch hen gerbydau clasurol mewn lleoliad hynafol sydd yr un mor drawiadol.
“Does dim angen archebu tocynnau ymlaen llaw – dewch draw ar y diwrnod i fwynhau’r digwyddiad gwych hwn.”
Bydd Ystafell De Nest ar agor o 10 o’r gloch y bore ymlaen gan weini rholiau cig moch a diodydd poeth, a’r dewis blasus arferol o gacennau a chinio cartref a fydd ar gael am weddill y dydd. Mae croeso i ymwelwyr grwydro’r Castell mawreddog a Melin Heli Caeriw yn ystod eu hymweliad, i ddod i wybod mwy am y digwyddiadau a’r cymeriadau lliwgar a gyfrannodd at hanes diddorol y safle hwn.
Er bod y sioe geir ei hun yn llawn ar hyn o bryd a ddim yn derbyn rhagor o gerbydau mwyach, mae unrhyw un sydd â diddordeb mewn sicrhau lle ar gyfer ei gerbyd ar y rhestr wrth gefn, yn cael ei annog i gofrestru ei ddiddordeb drwy ddilyn y ddolen yn www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/digwyddiadau-castell-caeriw/digwyddiadaur-gwanwyn/.
Caiff y Sioe Geir Castell Caeriw ei chynnal rhwng 10am a 3pm, a bydd y Castell ar agor rhwng 10am a 4.30pm. Codir tâl mynediad arferol. Oedolion £8, Consesiynau £7, Plant £6, a Thocyn Teulu (dau oedolyn a dau o blant) £25.
Cofiwch na fydd y digwyddiad yn mynd rhagddo os bydd y tywydd yn wael. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.castellcaeriw.com neu dilynwch dudalen Facebook Castell Caeriw (Castell a Melin Heli Caeriw) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau.
I gael gwybod mwy am y digwyddiadau eraill a fydd yn cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro dros Ŵyl y Banc a drwy weddill y flwyddyn, ewch i www.www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.