Helpwch i warchod llwybrau arfordirol Sir Benfro yn ystod Wythnos Rhoi’n Hael
Mae Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro yn gwahodd y cyhoedd i gael dwbl yr effaith yn ystod mis Rhagfyr, drwy gefnogi ymdrechion hanfodol i fynd i’r afael ag erydu arfordirol a newid yn yr hinsawdd ar draws llwybrau arfordirol arbennig Sir Benfro. Am wythnos yn unig, bydd rhoddion yn cael mwy fyth o effaith o ran diogelu’r llwybrau hardd hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Yn ystod Wythnos Rhoi’n Hael, sy’n cael ei chynnal rhwng 3 a 10 Rhagfyr, bydd unrhyw roddion i ymgyrch Achub ein Llwybrau Arfordirol yr Ymddiriedolaeth yn cael eu cyfateb – gan alluogi pob rhodd i fynd ddwywaith mor bell i ddiogelu’r arfordir gwerthfawr hwn a’i lwybrau cerdded heb eu hail.
Ystyrir y Llwybr Arfordir 186 milltir o amgylch Sir Benfro yn drysor cenedlaethol – mae’n mynd drwy dirwedd drawiadol o glogwyni, rhostiroedd a glaswelltiroedd ar y twyni, ac mae wedi’i gysylltu gan we o lwybrau. Mae trigolion, bywyd gwyllt ac ymwelwyr fel ei gilydd yn mwynhau’r llwybr eiconig hwn drwy gydol y flwyddyn. Ac eto, mae pwysau cynyddol y newid yn yr hinsawdd – lefelau’r môr yn codi, stormydd cyson a thywydd eithafol – yn erydu’r arfordir ar raddfa ddychrynllyd, gan fygwth hygyrchedd y llwybrau hyn, amharu ar ecosystemau lleol, ac effeithio ar dwristiaeth sy’n cefnogi’r economi leol.
Mewn ymateb i hyn, mae Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro wedi ffurfio partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a thîm y Llwybrau Cenedlaethol i lansio dull rhagweithiol drwy’r ymgyrch Achub ein Llwybrau Arfordirol. Bydd yr arian a godir yn ystod Wythnos Rhoi’n Hael yn mynd tuag at waith atgyweirio hanfodol, gwaith adfer pontydd, symud malurion ymaith, a dargyfeirio llwybrau lle bo angen – gan sicrhau bod Llwybr yr Arfordir a’i lwybrau cyswllt yn aros yn agored ac yn ddiogel am genedlaethau i ddod.
Dywedodd Jamie Owen, Newyddiadurwr, Darlledwr a Noddwr Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro: “Llwybr Arfordir Penfro yw un o drysorau mwyaf y sir. Rydw i wedi ei droedio o’r dechrau i’r diwedd. Byddai’n drychineb pe na bai modd ei ddefnyddio dim mwy, neu pe bai rhannau ohono’n diflannu’n llwyr. Mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn gwneud ein rhan i sicrhau ei fod yn cael ei gadw.”
Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro: “Wythnos Rhoi’n Hael yw’r digwyddiad arian cyfatebol mwyaf yn y DU, lle caiff rhoddion gan gefnogwyr elusennau’r DU eu dyblu. Mae’n gyfle gwych i ennyn cefnogaeth a chodi arian i helpu i ddiogelu llwybrau arfordirol poblogaidd Sir Benfro, gan sicrhau eu bod yn parhau i sefyll yn gadarn yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, ac yn parhau i fod yn bleser i genedlaethau’r dyfodol.
“Os ydych chi’n awyddus i helpu, ystyriwch roi arian yn ystod Wythnos Rhoi’n Hael drwy fynd i https://donate.biggive.org/campaign/a056900002TPSPiAAP.”
Mae rhagor o wybodaeth am waith Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro ar gael yn https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/