Hwb nawdd Awdurdod y Parc ar gyfer hanner canrif hwyr digwyddiad Nofio ar Ŵyl San Steffan
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn falch iawn o fod yn un o brif noddwyr Nofio ar Ŵyl San Steffan yn Ninbych-y-pysgod eleni.
Bydd y digwyddiad poblogaidd yn dathlu ei hanner canmlwyddiant hwyr eleni, ar ôl gorfod canslo’r digwyddiad oherwydd Covid-19 yn 2020 a 2021.
Dywedodd Di Clements, Cadeirydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:
: “Mae’r Awdurdod yn falch iawn o helpu’r digwyddiad cymunedol hwn sy’n cael llawer o gefnogaeth i ddathlu ei hanner canrif, yn enwedig wrth i’r Parc Cenedlaethol ddathlu ei garreg filltir nodedig ei hun yn 70 oed eleni.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y cymorth hwn yn helpu i godi arian y mae wir ei angen ar gyfer amrywiaeth o achosion lleol, cydnabod ymdrechion y cyfranogwyr dewr, a chysylltu â rhaglen ehangach yr Awdurdod i gefnogi llesiant dros y gaeaf, gan helpu cymunedau ledled y Parc i gadw’n iach y gaeaf hwn.”
Ychwanegodd Chris Osborne, Cadeirydd Cymdeithas Nofio Môr Dinbych-y-pysgod:
Mae lleoliad trawiadol y digwyddiad nofio ar Draeth y Gogledd Dinbych-y-pysgod yn galw am gydweithio parhaus rhwng trefnwyr digwyddiadau cymunedol, fel Cymdeithas Nofio Môr Dinbych-y-pysgod, a cheidwaid amgylcheddol fel Awdurdod y Parc.
“Mae’r dathliadau ar y cyd hyn, a’r nawdd hael hwn yr ydym yn ddiolchgar iawn amdano, yn ffordd o ddathlu’r bartneriaeth hon.”
Mae digwyddiad Nofio ar Ŵyl San Steffan Dinbych-y-pysgod 2022 yn codi arian ar gyfer Caffi’r Cof Dinbych-y-pysgod, Sefydliad Dai Rees, RNLI Dinbych-y-pysgod a Sefydliad Paul Sartori.
Gofynnir i’r nofwyr gofrestru ar-lein a rhoi rhodd fechan i helpu i dalu am gost trefnu’r digwyddiad, a fydd yn sicrhau bod mwy o’r arian nawdd a godir yn mynd i’r achosion da a ddewiswyd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Nofio ar Ŵyl San Steffan yn Ninbych-y-pysgod (agor yn ffenestr newydd) neu dilynwch Tenby Boxing Day Swim ar Facebook, Instagram neu Twitter.