Lansio grwpiau newydd ar gyfer rhieni, babanod a phlant yn Sir Benfro
Gall rhieni yn Sir Benfro sy’n chwilio am gyfleoedd i fentro i’r awyr agored gyda’u plant, a hynny mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol ymuno â grwpiau cerdded wythnosol rhad ac am ddim yn Aberllydan a Phenfro.
Mae’r grwpiau cerdded hyn, sydd wedi eu trefnu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn darparu awyrgylch hamddenol a chroesawgar i rieni, ac yn rhoi cyfle iddynt gwrdd â rhieni eraill, gwerthfawrogi harddwch yr ardal leol a gweld bywyd gwyllt; y cyfan wrth wneud ychydig o ymarfer corff.
Bydd grŵp cerdded Aberllydan yn cwrdd ym maes parcio’r Awdurdod, y tu allan i YHA Aberllydan, bob dydd Llun am 10am, a bydd grŵp Penfro yn cwrdd ym maes parcio y Comin, Penfro, y tu allan i Pembroke Carvery, bob dydd Gwener am 10am. Bydd y ddwy daith yn dechrau am 10:15am, ac maent yn rhad ac am ddim. Mae’r teithiau yn addas ar gyfer pramiau, ac felly’n berffaith ar gyfer rhieni newydd, darpar rieni, a rhieni plant bach.
Bydd pob taith yn para rhwng 45 a 60 munud, a bydd cyfleusterau newid babanod a chaffis lleol ar gael i brynu diod neu fwyd ynddynt cyn neu ar ôl y daith.
Yn ystod y daith, bydd cyfle i rieni gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n addas i oedran eu plant, a bydd pawb yn siŵr o elwa o gael bod yn yr awyr iach, symud eu corff, a chael cefnogaeth pobl debyg i chi.
Mae Amber Manning, Cydlynydd Get Outdoors a threfnydd y grwpiau cerdded yn annog rhieni i gymryd rhan, a phrofi manteision cwrdd ag eraill ym myd natur. Dywedodd hi: “Mae’r teithiau cerdded hyn yn gyfle gwych i rieni adael y tŷ, cymdeithasu, a mwynhau awyr iach Sir Benfro gyda’u plant. Os ydych chi eisiau cwrdd â phobl newydd, cael mwy o awyr iach, neu fwynhau taith gerdded hamddenol, ymunwch â ni. Mae croeso i bawb.”
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Amber Manning drwy ffonio 07483 377414 neu anfon e-bost at amberm@pembrokeshirecoast.org.uk